Rhagfyr 2il 10yb-12.30yh, Ar-lein
Am Ddim
Fel storïwyr llafar, rydym yn gweithio gyda chwedlau traddodiadol a gafodd eu hysgrifennu i lawr ar bwynt penodol mewn hanes, wrth ymyl delweddau wedi’u mewnforio pan yn adrodd straeon o gefndir diwylliannol arall. Yn ein harfer o ddewis, addasu a pherfformio straeon gwerin traddodiadol ar gyfer cynulleidfaoedd efallai y byddwn yn dod ar draws materion problemus yn ymwneud â hiliaeth, ystrydebau rhyw neu hetero-normatifedd yn y straeon rydyn ni'n eu hadrodd.
Nod y gweithdy hwn yw codi ymwybyddiaeth o heriau stereoteipiau a ffurfiau o ddelweddau gwahaniaethol mewn straeon gwerin traddodiadol. Gan edrych ar ein safle personol ein hunain fel man cychwyn, bydd y gweithdy'n cynnig cyflwyniad i faterion ystrydebau a phriodoli diwylliannol yn eu perthnasedd i adrodd straeon llafar trwy eu gosod mewn cyd-destun o fewn strwythurau pŵer hanesyddol a heddiw.
Am Florian
Mae Florian Fischer yn hyfforddwr, ymgynghorydd ac awdur ar faterion cyfiawnder cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar dreftadaeth (ôl)drefedigaethol, hiliaeth / gwynder, gwrywdod, ac amrywiaeth rhywedd. Mae e hefyd yn gweithio fel storïwr ifanc ar ôl graddio o'r cwrs 'Adrodd Straeon mewn Celf ac Addysg' ym Mhrifysgol Celfyddydau Berlin yn 2018.
Dim ond lle am 15 o bobl fydd ar gael, a’r cyntaf i’r felin caiff falu. E-bostiwch tamarwilliams@beyondtheborder.com os hoffech chi fynychu lle.