body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

HYFFORDDIANT DYDD MERCHER: Gweithdy Adrodd Straeon yn Ddwyieithiog gyda Michael Harvey

9fed o Fedi 2020, 10yb-12.30yh, Arlein

Gweithdy ymarferol sydd yn addas i chwedleuwyr sydd yn defnyddio mwy nag un iaith yn eu gwaith nhw, fydd yn archwilio technegau adrodd stori yn ddwyieithiog, strwythuro stori, ac ymarfer da pan yn gweithio gyda mwy nag un iaith.

Dim on 12 lle sydd ar gael yn y gweithdy yma a’r cyntaf i’r felin caiff falu. E-bostiwch tamarwilliams@beyondtheborder.com er mwyn diogelu eich lle chi.

Nodwch, er mwyn cael y gorau allan o’r gweithdy yma, mae angen i chi fedru mynegi eich hun yn gyfforddus a byrfyrfyrio tamaid yn y ddwy iaith. Ein argymelliad ni yw eich bod chi’n medru siarad eich hiaith ychwanegol lan at lefel TGAU. Nid oes angen i chi i fod yn gwbl rhugl.

Fe fydd angen i chi ddod â stori i weithio arni rydych chi’n teimlo atyniad tuag at ei hadrodd yn ddwyieithiog oddeutu 10-15munud o hyd. Mae deunydd hirach hefyd yn iawn. Fe fyddech chi’n gwiethio ar rannu byr o’r stori a’i rhannu hi gyda chyfranogwyr eraill yn ystod y gweithdy.

Cefnogir gan

^
Cymraeg