Mae Gŵyl Chwedleua Beyond the Border yn edrych am Gydlynydd Gŵyl llawrydd i gynorthwyo timau Rheoli, Gweithrediadau a Chynhyrchu yr Ŵyl i gyflwyno gŵyl lwyddiannus ym mis Gorffennaf 2021 yn ei safle newydd yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr.
Contract:
Bydd y penodiad yn dechrau cyn gynted ag sydd modd ac yn dod i ben ar 23 Gorffennaf. Cynhelir yr Ŵyl ar 2-4 Gorffennaf a bydd y gwaith o adeiladu’r ŵyl yn dechrau ar 26 Mehefin a bydd i ffwrdd o’r safle erbyn 8 Gorffennaf. Cynhelir Gŵyl Rithiol rhwng 19 Mehefin a 17 Gorffennaf.
Defnyddiwyd cyfradd dyddiol dybiannol o £150 i greu llinell cost gyllideb ar gyfer y contract hwn, fodd bynnag caiff ei gynnig ar sail ‘cyflawni gwaith’ am swm a gytunwyd. Mae angen gweithio’n hyblyg, gyda disgwyliad o ddyrannu digon o amser i gefnogi cydlynu’r digwyddiad gyda disgwyliad o ymrwymiad sylweddol o amser o amgylch y digwyddiad ei hun. Y gydnabyddiaeth ariannol a gynigir yw £5,000.
Dylai eich cais derbyn erbyn 5pm 26 Ebrill 2021 fan bellaf
Disgrifiad swydd:
Gweithio fel rhan o dîm BTB i gyflwyno gŵyl lwyddiannus gan gyflawni targedau a sefydlwyd gan y Bwrdd o ran llwyddiant ariannol, profiad cwsmeriaid, datblygu partneriaethau, profiad perfformwyr, profiad gwirfoddolwyr a phrofiad masnachwyr.
Cynorthwyo gyda chydlynu a gweinyddu gofynion artistiaid ar gyfer yr ŵyl yn cynnwys cydlynu gyda’r cyfarwyddwr artistiaid, rheolwr yr ŵyl, y tîm gweithrediadau a rheoli cynhyrchiad a sicrhau y caiff manylebion a gwybodaeth eu cyfleu’n llwyddiannus i grwpiau perthnasol.
Cynorthwyo gyda chydlynu a gweinyddu gwybodaeth i wirfoddolwyr.
Cynorthwyo Rheolwr yr Ŵyl gyda chydlynu a gweinyddu amserlenni yn ystod yr ŵyl yn cynnwys artistiaid a gwirfoddolwyr yn cynnwys cydlynu gyda’r timau rheoli.
Cynorthwyo gyda chydlynu rhwymedigaethau contract gydag unigolion, cwmnïau a chontractwyr yng nghyswllt cyflwyno’r ŵyl yn cynnwys staff llawrydd, artistiaid, cyflenwyr a masnachwyr.
Cynorthwyo Rheolwr yr Ŵyl wrth sicrhau y caiff holl brosesau llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol eu dilyn wrth gyflwyno’r ŵyl yn nhermau diogelwch yn cynnwys canllawiau Covid, cydymffurfiaeth, targedau MEU.
Gweithio gyda’r Tîm Rheoli i sicrhau y caiff gwybodaeth ei chasglu ar gyfer adrodd a gwerthusiad i’r Bwrdd, sefydliadau perthnasol a chyff cyllido ac i gyrff cyllido.
Sut i wneud cais
Dylid anfon llythyr cais yn rhoi manylion sut ydych yn cyflawni y fanyleb person, CV atodol ac enw dau/dwy ganolwr at info@beyondtheborder.com.
Rydym yn awgrymu eich bod yn gofyn am “derbynneb darllen” fel y gallwch gael sicrhad iddo gyrraedd yn ddiogel.
Dylai eich cais derbyn erbyn 5pm 26 Ebrill 2021 fan bellaf.
Cynhelir cyfweliadau ar-lein yn fuan wedyn, dyddiad i’w gadarnhau.
Manylion pellach yn y dolenni PDF a dogfen Word islaw
BTB Festival Coordinator Job Description WORD DOC
BTB Festival Coordinator Job Description PDF