body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Pobl iau a hŷn yn cysylltu drwy straeon yn ystod y cyfnod clo

PeopleSpeakUp ar y cyd gyda Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru wedi bod yn dod â phobl ifanc a hŷn at ei gilydd, llawer ohonynt yn ynysig neu mewn risg, i gyfnewid straeon a chefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod clo yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.

Gyda chynifer o ddatblygiadau cyffrous ar-lein, a chyfoeth o waith perfformiad a phrosiectau mewn gofod chwedleua rhithiol, lansiodd PeopleSpeakUp gyda chefnogaeth Beyond the Border, ddau brosiect peilot arloesol i barhau i weithio gyda phobl hŷn, llawer ohonynt heb fynediad i’r rhyngrwyd.

PeopleSpeakUp working in collaboration with Beyond the Border and storyteller Phil Okwedy trailed new ways of connecting with older people by sharing and exchanging stories through their Stories by Phone scheme. Using a mixture of individual old-tech phone calls with some participants and small group Zoom sessions with others, the participants, some of whom have been diagnosed with dementia, felt at ease to use their imagination and connect during a time of isolation.

Dywedodd Phil Okwedy, chwedleuwr sy’n byw yn Ninbych-y-pysgod:By whatever medium they have received the stories, to date they have all led to further conversation & connection and all have reported that they have enjoyed them, valued them and are hungry for more. One participant receiving phone calls reports she values the space they offer for her to visualise the story without distraction and that it helps her to bring similar stories to mind. On the other hand, some in the Zoom groups say they really value the sense of connection they feel from being in the same virtual room, and that the stories are richer for being able to experience the physicality of them.”.”

Yn ogystal â Stories by Phonemae’r bartneriaeth wedi datblygu prosiect rhyng-genhedlaeth Casglu Straeon rhwng disgyblion ysgol uwchradd a phreswylwyr mewn cartrefi gofal yn Sir Gaerfyrddin. Bu’r bobl ifanc rhwng 14-18 oed o Ysgol Coed Cae a phreswylwyr a staff yng Nghartref Gofal Cilymaenllwyd, Llanelli yn treulio gwyliau’r haf yn cysylltu a chreu straeon newydd, rhannu straeon traddodiadol a darganfod ffyrdd newydd o gydweithio yn cefnogi iechyd meddwl, hyd yn oed ar bellter cymdeithasol.

Mae PeopleSpeakUp yn fenter celfyddydau cymdeithasol, iechyd a llesiant yn Llanelli sy’n cysylltu gyda chymunedau drwy chwedleua, y gair llafar, ysgrifennu creadigol a chelfyddydau cyfranogol.

PeopleSpeakUp’s Artistic Director, Eleanor Shaw said; “Ar ddechrau’r cyfnod clo roeddem yn bryderus iawn sut y medrem barhau i gefnogi ein cymunedau, yr ifanc a’r hen, i gyd yn fregus ac yn ynysu a gyda gwybodaeth gyfyngedig o dechnoleg. Mae’r ddau brosiect wedi mynd ymhell tu hwnt i’r hyn y disgwyliem ei wneud i gefnogi pobl yn ystod y cyfnod clo. Bu’r adborth mor gadarnhaol. Mae straeon yn caniatáu gofod creadigol yn arbennig i’r rhai gyda Dementia i fedru breuddwydio a chyfathrebu. Mae hefyd wedi galluogi pobl ifanc i oresgyn rhai o’u pryderon, datblygu hyder yn eu cyfathrebu eu hunain a’u cefnogi eu hunain yn ogystal â phobl hŷn i ddefnyddio technoleg yn y ffordd hon.”.”

Dywedodd Dianne Francis, Cydlynydd Gweithgareddau Cartref Gofal Cilymaenllwyd: "Mae’r preswylwyr yn wirioneddol fwynhau’r prosiectau gyda PeopleSpeakUp, mae’n dod â llawer o atgofion iddynt. Mae’r ystafell yn llawn chwerthin, maent yn gadael yr ystafell wrth eu bodd, gydag agwedd teimlo’n dda ac yn y sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd, maent yn mwynhau rhyngweithio gyda phobl heblaw’r rhai yn y cartref. Gallwch eu teimlo yn canolbwyntio i wrando pan mae rhywun yn dweud stori neu’n darllen cerdd.”.”

Meddai Tamar Eluned Williams, Cydlynydd Ymgysylltu Lleol Beyond the Border:

"“Bu’n wych gweithio gyda PeopleSpeakUp i ymestyn allan a chreu cyfleoedd ystyrlon a hygyrch yn ystod y cyfnod clo. Mae clywed a rhannu straeon ein gilydd yn ffyrdd mor gryf i feithrin perthynas yn ogystal ag i ddelio gyda rhai o’r pwysau ychwanegol rydym i gyd yn eu profi ar hyn o bryd. Mae’n wych gweld y ffôn yn cael ei defnyddio eto, ynghyd â chysylltedd digidol, a chysylltiadau ar draws cenedlaethau. Gwyddom fod y cydweithio hwn eisoes wedi ysbrydoli prosiectau eraill i sefydlu, a rydym yn edrych ymlaen at barhau’r gwaith hwn i’r dyfodol.”.”

Mae mwy o wybodaeth am PeopleSpeakUp a Stories by Phone/Casglu Straeon ar gael yn peoplespeakup.co.uk

Cefnogir Stories by Phone a Story Gathering gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, Connect to Kindness, Cyngor Sir Caerfyrddin a Hushland Creative

Cefnogir gan

^
Cymraeg