body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Stacey Blythe & Rajesh David - Cerddoriaeth Gitân (Rhagfyr)

Mae ein hail flog Ysbrydoli ar gyfer mis Rhagfyr gan y chwedleuwyr Stacey Blythe a Rajesh a fu’n cydweithio i gydblethu llinynnau barddonol Hindi, Cymraeg, Urdu a Sanskrit drwy straeon, caneuon ac offerynnau tebyg i harmoniwm Indiaidd a’r delyn Geltaidd. Golwg ddiddorol iawn am blethu diwylliannau a ieithoedd 4596 milltir ar wahân.

Beth yw'r prosiect?

Teitl ein prosiect yw Cerddoriaeth Gitân. Mae’n daith gyda dau gyfaill rhwng dau fyd, bob un yn dal llinyn cerddorol eu mamwledydd cynhenid neu fabwysiedig a dod â nhw ynghyd i greu tapestri sonig hardd.

Y ddau gyfaill yw’r cantorion, cerddorion a cyfansoddwyr Rajesh David a Stacey Blythe.
Cafodd Rajesh ei eni ym Mumbai a daeth i Gymru, dysgu’r iaith ac ymgartrefu yn Llanbedr Pont Steffan. Cafodd Stacey ei geni yn Birmingham a daeth i astudio cerddoriaeth yng Nghaerdydd. Dysgodd Gymraeg a magodd ei theulu i siarad Cymraeg. Mae ei chartref yng Nghaerdydd.
Rydym yn plethu diwylliannau ac ieithoedd yn ddwfn iawn gyda 4,596 milltir yn eu gwahanu. Mae ein gwaith yn gwneud deunydd newydd gyda llinynnau barddonol Hindi, Cymraeg, Urdu a Sanskrit .. gyda llinynnau ar gân o arddulliau lleisiol clasurol India a chaneuon gwerin o Gymru .. a gydag offerynnau nad ydynt fel arfer yn dawnsio gyda’i gilydd – harmoniwm Indiaidd a’r delyn Geltaidd. Mae’r tapestri hwn yn hyfryd o annisgwyl. Mae wedi ei agor ei hunan o’n blaen a chawn ein rhyfeddu a’n synnu ganddo – gyda’i holl dirlun annisgwyl a chyfareddol. Barddoniaeth glasurol epig yn Hindi, Urdu a Sanskrit yn eistedd wrth ymyl, ac yn plygu i ganeuon gwerin personol, addfwyn a chartrefol o Gymru. Mae’r llinellau’n amwys, y gwahaniaethau yn toddi, a dechreuwn ganu a rhannu’r caneuon a’r gerddoriaeth o’r traddodiadau amrywiol hyn gydag un llais sonig. Mae iaith deuawd ddiwylliannol ddofn wedi agor i ni, ac mae’r ddau ohonom yn gwybod y bydd yn cydweithio hwn yn parhau.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Mae’r gwaith hwn ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau caneuon gwerin a barddoniaeth godidog wedi eu dweud o’r newydd gyda harmonïau hyfryd a cherddoriaeth gyfoethog ar y delyn a’r harmoniwm. Mae ar gyfer unrhyw un sydd yn hoffi clywed hen ganeuon mewn cegau newydd, a barddoniaeth hynafol gan leisiau newydd, annisgwyl. Y dreftadaeth a goleddwn yw Urdu, Cymraeg, Hindi a Sanskrit. Mae ein gwaith fel dyddiadur cerddorol o gymdeithas gyfoes ym Mhrydiau – amrywiol, annisgwyl, cryf a byw.
Ein cynulleidfa yw unrhyw un a fyddai’n hoffi gwrando ar rywbeth nad ydynt efallai erioed wedi’i glywed o’r blaen.

Dywedwch fwy wrthym amdanoch eich hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau chwedleua? Pa mor hir fuoch chi’n gwneud hyn? Lle ydych chi’n byw? Sut ydych chi’n gweithio gyda stori?

Rajesh David
Llais, Harmoniwm.
Mae Rajesh yn ganwr a chyfansoddwr dawnus a hyblyg, wedi’i hyfforddi mewn cerddoriaeth glasurol Indiaidd. Cafodd ei eni yn India i deulu o gantorion, roedd yn artist blaenllaw ar gyfer All India Radio & Television. Mae ei gyfansoddiadau, a ddylanwadwyd gan draddodiadau clasurol a gwerin India yn ogystal â cherddoriaeth gyfoes yn ysbrydoli, yn egnïol ac yn agor calonnau. Mae’n dysgu’r Gymraeg, yn ogystal ag iaith gerddorol sargams, taranas a bols. Mae’n mwynhau gweithio gyda cherddorion o wahanol genres, gan ddod â cherddoriaeth a diwylliannau ynghyd. Mae Rajesh yn chwarae gyda Dylan Fowler a Peter Stacey yn eu triawd Tŷhai. Mae ei angerdd am gerddoriaeth a’i astudiaeth o Yoga wedi ei ysbrydoli i ddatblygu seminarau ar Yoga Nada a Yoga Bhakti y mae’n eu rhoi yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae wedi cynhyrchu nifer o albymau CDs o’i gyfansoddiadau yn ogystal a CDs ymarfer yoga. Cafodd ei CD diweddaraf ei ysbrydoli gan gerddi Amir Khusro, bardd Sufi.

Stacey Blythe Rwy’n chwarae yn ôl y glust yn gyfansoddwr, cantores ac aml-offerynnwr gyda hyfforddiant clasurol.

Rwy’n ysgrifennu ac yn teithio gyda Adverse Camber (www.adversecamber.org )
“Hunting the Giant’s Daughter” oedd fy narn cyntaf o waith teithio gyda nhw ac mae’n ddarn o theatr-chwedleua a enillodd wobrau. Rydym wedi gwneud llawer o deithiau ym Mhrydiau a thir mawr Ewrop yn Gymraeg ac yn Saesneg – 38 sioe hyd yma.
Rydym newydd deithio Awstralia am fis gyda “Dreaming the Night Field”, nifer fawr o berfformiadau yn cynnwys cyfnod preswyl yng Nghanolfan Ddiwylliannol Aboriginaidd Wiradjuri. Fe wnaethom berfformio gyda, a dod i adnabod, y perfformwyr ifanc gwych sy’n cynnal eu traddodiadau yn iach ar gyfer y dyfodol. Mae gweithio yn y Gymraeg hefyd yn rhan enfawr o bwy ydwyf yn greadigol. Rwyf wedi bod yn ffodus i berfformio yn Gymraeg yn yr Unol Daleithiau, Brasil, Awstralia, yr Almaen, yr Eidal, Ffrainc, yr Iseldiroedd a phob rhan o Brydain. Mae rhannu’r drysorfa o’r diwylliant cyfoethog hwn a’r iaith yn wirioneddol yn fy ysbrydoli.
Rwyf wedi gorffen cwrs hyfforddiant mewn chwedleua yn ddiweddar. Rwyf ar fin dechrau cwrs arall mewn chwedleua yn Gymraeg. Ar ôl gweithio mor agos gyda chwedleua am dros 20 mlynedd fel cerddor a chyfansoddwr, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau dweud fy stori fy hunan – gyda Rajesh. Rwy’n gweithio gyda stori fel dechreuwr. Dyna lle gwelaf ein gwaith yn mynd – ar ôl bod mor lwcus fel perfformiwr i fod wrth ganol chwedleua am mor hir fel y gwn y gallaf ymddiried yr hyn a welaf o flaen Rajesh a finnau. Mae ein cyfarfod a’n bywydau wirioneddol yn fy ysbrydoli i fireinio a rhannu ein naratif. Mae ein cefndiroedd a’r ffaith fod y ddau ohonom wedi dewis y Gymraeg fel mamiaith fabwysiedig mor unigryw fel y gwn y bydd yn sefyll fel tirlun grymus i’w ddatblygu wrth rannu ein cerddoriaeth newydd hardd gyda chynulleidfaoedd. Rwy’n falch iawn i wneud hyn yn ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg yn ogystal â chanu gyda Rajesh yn Urdu, Hinidi a Sanskrit.

Edrych dros y Cyfnod Clo – oes rhywbeth a welsoch ar-lein yr hoffech ei rannu e.e. fideo/podlediad/digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli ar hyn o bryd?

Rwy’n hollol gaeth i sgyrsiau TED! Gwelais un wych ar y pysgotwr gan Jan Blake ... mae llawer ar chwedleua ac maent yn ddiddorol tu hwnt yn ogystal â chodi eich hwyliau!

Jan Blake - TEDxWarsaw
Jan Blake - TEDxManchester

Cefnogir gan

^
Cymraeg