body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Hygyrchedd

Mae Gŵyl Chwedleua Beyond the Border wedi ymrwymo i sicrhau bod pob cynulleidfa yn gallu cael mynediad i’n gŵyl.

Tîm bychan ydyn ni, a gyda chostau cynyddol cynnal digwyddiadau eleni byddwn yn ceisio bod yn glir beth allwn ni ei gynnig ar gyfer yr ŵyl eleni, ond hefyd beth na allwn ni eich helpu i’w wneud. Cofiwch roi gwybod i ni sut y gallwn roi cymorth i hwyluso eich ymweliad â’r ŵyl. Rydym am allu gwneud yr hyn allwn ni o fewn ein hadnoddau. Efallai na fyddwn yn gallu gwneud rhai pethau eleni, ond fe fyddem yn hoffi datblygu ar gyfer gŵyl 2025. Cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost a rhif ffôn isod.

Yn yr adrannau isod rydym yn amlygu'r hyn yr ydym yn gwybod y gallwn roi cymorth i chi ei wneud eleni yn yr ŵyl a rhannu â chi beth sydd ddim yn hygyrch ar safle’r ŵyl yn Ninefwr.

Gallwch gael gwybod beth yr ydym yn bwriadu ei wneud dan – Safle’r Ŵyl isod ar y dolenni neu lawrlwythwch fersiwn lawn ar ffurf PDF
Accessibility 2023 PDF
Hygyrchedd PDFHygyrchedd PDF 2023

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni info@beyondtheborder.com
Gallwch hefyd adael neges llais ar 02921 660501 ond cofiwch nad oes rhywun ar y llinell hon yn barhaus ac efallai y bydd oedi cyn cysylltu’n ôl â chi.

BSL & CC

BSL & CC - English
BSL & CC Cymraeg

 

Cyfieithwyr BSL - Tony Evans & Cathryn McShane

Nos Wener 7 Gorffennaf, 6.30pm
Gwenllian
Opening Gala of Stories and Music
MC Ceri Phillips & Tamar Eluned Williams

Nos Wener 7 Gorffennaf, 6.30pm
Pobl Bach
Bedtime Stories
Alison Newsam

Nos Wener, 7 Gorffennaf, 8.30pm
Golchfa
A Wild Alchemy
Deb Winter & Barney Griffiths

Sadwrn 8 Gorffennaf, 10.30am
Glyndŵr
Phoenix
Katy Cawkwell

Saturday 8 July, 12.30pm
Cân y Coed Song of the Trees
Cheryl Beer
Cylch Gwrando Ffawydden Y Frenhines
Sadwrn 8 Gorffennaf, 12.30pm-2pm
Beech Wood – meet at the Information point at 12pm

Sadwrn 8 Gorffennaf, 2pm
Gwenllian
The Battle of the Trees
Christine Cooper and Ceri Rhys Matthews

Sadwrn 8 Gorffennaf, 5pm
Profiadau awyr Agored
The Bog King’s Daughter
Sally Pomme Clayton

Sadwrn 8 Gorffennaf, 7pm
Gwenllian
The Three Musketeers

Sul 9 Gorffennaf, 10.30am
Pobl Bach
Caneuon a Straeon Cymraeg
Lynwen Thomas

Sul 9 Gorffennaf, 11am
Gwenllian
Time is Now
Sioned Davies a Mererid Hopwood gyda Tamar Eluned Williams

Sul 9 Gorffennaf, 12pm-1.30pm & 3pm-4.30pm
Castell Dinefwr
Y Mabinogi
Strets & Frets

Sul 9 Gorffennaf, 6pm-7pm
Golchfa
Song of the Old Horse Goddess (with Friends and Mari Lwyd)
Cath Little, Guto Dafis, Chandrika Joshi & David Pitt.

Sul 9 Gorffennaf, 7pm
Gorymdaith Gloi

Sul 9 Gorffennaf, 8pm
Gwenllian
Dathliad Olaf - The Devil's Violin

Rydych yn gymwys i wneud cais am docyn am ddim i gydymaith ddod gyda chi os ydych wedi prynu eich tocyn eich hun ac y gallwch dderbyn eich bod yn derbyn unrhyw un o’r dilynol:

  • ● Cerdyn Access gyda symbol +1 (ar gyfer tocyn cydymaith) a/neu symbol Pellter neu Gadair Olwyn (ar gyfer tocynnau cerbyd). https://www.accesscard.org.uk/
  • Llythyr cadarnhad yn dangos eich bod yn derbyn elfen “Byw Dyddiol” (ar gyfer tocynnau cydymaith) a/neu’r elfen “Mynd o Gwmpas”/”Symudedd” (ar gyfer tocynnau cerbyd) PIP neu DLA.
  • Llythyr yn cadarnhau eich bod yn derbyn Lwfans Gweini.
  • Llythyr cadarnhau eich bod yn dangos y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
  • Dwy ochr eich Bathodyn Glas (ar gyfer tocynnau cerbyd yn unig).
  • Tystiolaeth cofrestru nam difrifol ar y golwg.
  • Tystiolaeth o ddiagnosis bod ar y sbectrwm awtistig.
  • Llythyr gan feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall yn cadarnhau na fedrech fynychu’r ŵyl ar eich pen eich hun (ar gyfer tocyn cydymaith) a/neu bod gennych anabledd neu gyflwr meddygol sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi ddefnyddio maes gwersylla neu faes parcio hygyrch (ar gyfer tocynnau cerbyd).
  • Os ydych yn byw yng Nghymru, efallai y byddwch am ystyried ymuno â’r cynllun HYNT. Dysgwch ragor am y cynllun am ddim hwn yng Nghymru.

I archebu eich tocyn cydymaith, archebwch eich tocyn eich hun ar-lein dros y ffôn. Gallwch anfon yr wybodaeth hon atom ymlaen llaw neu ddod â thystiolaeth gyda chi a dull adnabod gyda llun pan fyddwch yn casglu eich tocynnau yn yr ŵyl.

I archebu eich tocyn cydymaith, archebwch eich tocyn eich hun ar-lein dros y ffôn. Gallwch anfon yr wybodaeth hon atom ymlaen llaw neu ddod â thystiolaeth gyda chi a dull adnabod gyda llun pan fyddwch yn casglu eich tocynnau yn yr ŵyl. Os oes gennych gwestiynau, y ffordd fwyaf effeithol o gysylltu â ni yw drwy info@beyondtheborder.com. Gallwch hefyd adael neges llais ar 02921 660501 ond gan nad oes staff ar y llinell bob amser, gall fod oedi cyn cysylltu’n ôl a chi.

Byddwn yn gweithio i sicrhau, o archebu eich tocyn i adael y safle, y bydd y profiad yr ŵyl Beyond the Border fwyaf hygyrch erioed.

• Mae’r fynedfa i’r ŵyl ar y briffordd. Mae’r meysydd parcio a safle’r ŵyl ar laswellt. Mae’r fynedfa i gerbydau i fyw ynddynt ar briffordd ac ardal o darmac. Mae maes yr ŵyl yn faes o laswellt gydag ardaloedd bryniog. Mae rhai llwybrau graean a tharmac yn arwain at ran arall o Ddinefwr gan gynnwys Tŷ Newton, y Coetir a’r Castell. Cofiwch y gall y tir fynd yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb – yn neilltuol yng Nghymru!
• Mae mynedfa’r ŵyl ar ben llechwedd wrth ymyl y briffordd, gan fynd i lawr yn raddol at ardaloedd prif bebyll yr ŵyl. Mae’r gwersyll ar waelod y llechwedd.

Er bod y rhan fwyaf o faes yr ŵyl yn wastad, gall natur fryniog naturiol yr ardal fod yn rhwystr i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn llaw a’r rhai â nam difrifol ar eu gallu i symud. Gall cadeiriau olwyn trydan ymdopi â’r rhan fwyaf o ardaloedd, ond gall y tir fod yn eithaf anwastad mewn mannau.

 

Maes Parcio a Man i Ollwng Teithwyr

• Byddwn yn darparu mannau parcio hygyrch wedi eu dynodi. Mae hyn yn ymyl y fynedfa i Faes yr Ŵyl. Gallwch gyrraedd a gadael yn ystod y penwythnos a dychwelyd ar unrhyw amser os ydych yn aros oddi ar y safle yn lleol.
• Bydd man i ollwng teithwyr yn agos at flaen yr ŵyl os ydych am ollwng rhywun wrth giât yr ŵyl.
• Os bydd arnoch angen help i fynd o’r maes parcio i’r gwersyll a maes yr ŵyl, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Cymorth bygi

Bydd gennym ddefnydd cyfyngedig ar ein Bygi i gludo paciau /offer gwersylla. Rydym yn gofyn i chi pan fydd yn bosibl roi gwybod i ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen cymorth ac os hoffech chi ddefnyddio’r Bygi. Bydd gennym hefyd Stiwardiaid Mynediad i helpu i gario eiddo i’r gwersyll os bydd angen. Sylwer na fyddwn yn gallu cludo pobl ar y bygi.

Os hoffech chi ddefnyddio ein Bygi llenwch y ffurflen isod, a rhoi gwybod i ni pryd y byddwch yn cyrraedd a gadael er mwyn i ni allu rheoli’r cyfnodau prysuraf.

https://forms.gle/QFfkwS2HAQALGyrT9

• Mae’r gwersyll ar waelod maes yr ŵyl ac mae 5 munud o waith cerdded oddi wrth y fynedfa. Mae llechwedd graddol o’r gwersyll at brif safle’r ŵyl.

• Oherwydd natur tir y gwersyll, efallai y byddwch am ystyried aros ar y safle cerbydau i fyw ynddynt os oes gennych eich cerbyd i fyw ynddo eich hun neu chwilio am lety arall yn agos at yr ŵyl. Mae argymhellion am wefannau ar ein tudalen Llety Lleol.

• Bydd gennym rai Cynorthwywyr Mynediad yn helpu yn yr ŵyl eleni, rhowch wybod i ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen help i fynd o fynedfa’r safle i’r gwersyll.

• Bydd toiledau hygyrch o gwmpas y safle. Yn anffodus ni allwn ddarparu cawodydd hygyrch.

• Os bydd arnoch angen man gwefru 24 awr wedi ei orchuddio i wefru batris cadeiriau, rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

• Mae’r safle Cerbydau i Fyw Ynddynt ar wahân i’r gwersyll a gellir mynd iddo ar y briffordd. Bydd hyn waith 5 – 10 munud o gerdded o brif fynedfa’r ŵyl. Cofiwch nad oes modd cysylltu trydan na dŵr at y cerbydau.

• Byddwn yn darparu toiledau hygyrch ar y safle cerbydau i fyw ynddynt. Bydd cawodydd ond eto, yn anffodus, ni fyddwn yn gallu darparu cawodydd hygyrch

• Bydd gennym rai Cynorthwywyr Mynediad yn helpu yn yr ŵyl eleni, rhowch wybod i ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen help i fynd o fynedfa’r safle i’r gwersyll.

Byddwn yn darparu arwyddion hygyrch ym mhob rhan o safle’r ŵyl a'r maes gwersylla

Byddwn yn rhoi gwybodaeth ar lwybrau hygyrch drwy safle’r ŵyl a’r maes gwersylla.
If you need to charge your mobility scooter, please let us know in advance.

Byddwn yn darparu storfa neilltuol ar gyfer meddyginiaeth.

• Mae’r rhan fwyaf o leoliadau ar brif safle’r ŵyl sydd ar laswellt, ond bydd rhai perfformiadau oddi ar y safle, fel teithiau stori, y coetir a’r castell. Nid yw rhai o’r teithiau hyn yn hawdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu’r rhai â symudedd gwael. Byddwn yn nodi ar raglen yr ŵyl pa deithiau stori a pherfformiadau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn ond cofiwch sôn wrthym am eich anghenion er mwyn i ni allu rhoi’r cyngor gorau.

Er bod y rhan fwyaf o faes yr ŵyl yn wastad, gall natur fryniog naturiol yr ardal fod yn rhwystr i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn llaw a’r rhai â nam difrifol ar eu gallu i symud. Gall cadeiriau olwyn trydan ymdopi â’r rhan fwyaf o ardaloedd, ond mae’r tir yn eithaf anwastad mewn mannau

Perfformiadau:

Bwriadwn gael mwy o BSL nag erioed o’r blaen a chyflwyno disgrifiad sain.

• Byddwn yn darparu mannau i gadeiriau olwyn ym mhob lleoliad, sydd yn farcîs a phebyll.

Argymhellwn fod yr holl ddigwyddiadau chwedleua yn addas ar gyfer rhai gyda nam ar eu golwg gan nad yw’r rhan fwyaf o sioeau yn dibynnu ar bropiau neu ddyluniad set.

A byddwn yn annog ein holl chwedleuwyr i gyflwyno disgrifiadau sain fel rhan o’u perfformiad neu ddarparu disgrifwyr sain.

Bwyd ac Arlwyo

- Mae Beyond the Border yn disgwyl y bydd mwy na 3000 o bobl ar safle’r ŵyl trwy’r penwythnos yn 2023.
Bydd amrywiaeth o stondinau a bariau ar y safle, yn gwerthu bwyd at bob dant a gofynion dietegol.
- Ar sail ein profiad yn y gorffennol nid yw’r ciwiau yn neilltuol o hir.

Hyfforddiant Staff:

• Bydd staff, stiwardiaid a gwirfoddolwyr penodol yn cael hyfforddiant anabledd.

• Bydd gennym Gynorthwywyr Mynediad dynodedig fydd yn rhoi cymorth i gynulleidfaoedd anabl. Os oes arnoch angen cymorth rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

• Rydym yn gweithio gyda’n partner swyddfa docynnau newydd, Canolfan Celfyddydau Taliesin, i wneud y broses o archebu tocyn mor hygyrch â phosibl.

Mynediad i wybodaeth:

Byddwn yn darparu gwybodaeth mewn nifer o fformatau i sicrhau fod gwybodaeth am yr ŵyl a’r safle mor hygyrch ag sydd modd.

• Gallwn ddarparu rhaglenni a mapiau’r ŵyl mewn print bras os gofynnwch am hynny

• Gallwn ddarparu rhaglen sain i’r ŵyl a fydd ar gael ar-lein.

• Bydd Map a rhaglen yr ŵyl ar gael fis o leiaf cyn i’r ŵyl ddechrau

Yn Nhŷ Newton, Dinefwr mae

Toiledau wedi eu haddasu yn fewnol ac yn y dderbynfa ymwelwyr

Mae'r gerddi yn rhannol hygyrch gyda llwybr llydan lefel isel i lyn y felin.

Mae mynediad ar ramp wrth y fynedfa i Tŷ Newton a lifft newydd i roi mynediad i'r llawr cyntaf i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae cadeiriau olwyn ar gael ar gyfer safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nhŷ Newton ond mae'n rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr ar 01558824512 01558824512

• Nid yw rhai o’r lleoliadau hyn yn hawdd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu’r rhai â symudedd gwael. Byddwn yn nodi ar raglen yr ŵyl pa deithiau stori a pherfformiadau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a’r rhai â symudedd gwael.

Mae'r gerddi yn rhannol hygyrch gyda llwybr llydan lefel isel i lyn y felin.

- Nid ydym yn caniatáu parcio wrth ymyl eich pabell. Gallwn sicrhau bod eich cerbyd yn cael ei barcio yn ein maes parcio dynodedig a gallwn eich helpu i gludo eich eiddo. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen help i drosglwyddo eich eiddo o fynedfa’r safle i’r gwersyll.

- Gyda’r safle Cerbydau i Fyw Ynddynt, gallwch barcio cerbyd wrth ymyl eich cerbyd byw ynddo gan fod hwn yn wersyll ar wahân i’r prif wersyll ar faes yr ŵyl

- Nid ydym yn darparu system neidio’r ciw ar gyfer dod i mewn i’r ŵyl nag ar gyfer y stondinau arlwyo. Rydym yn argymell y bydd yn brysur rhwng 11am-6pm, 10am-2pm ddydd Sadwrn a dydd Sul.

- Nid ydym yn darparu system neidio’r ciw ar gyfer dod i mewn i’r ŵyl nag ar gyfer y stondinau arlwyo. Rydym yn argymell y bydd yn brysur rhwng 11am-6pm, 10am-2pm ddydd Sadwrn a dydd Sul. - Nid ydym yn darparu nac yn llogi bygis na chadeiriau olwyn yn yr ŵyl. Gallwn helpu i gludo eich eiddo pan fyddwch yn cyrraedd gyda thryciau a helpu i’ch cludo chi i’r gwersyll ac i adael y digwyddiad.

Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os bydd arnoch angen help i drosglwyddo eich eiddo o fynedfa’r safle i’r gwersyll.

Gan weithio gyda Thîm Twristiaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin rydym wedi cael gwybod bod yr eiddo canlynol yn addas i’r rhai sydd am aros yn agos at safle’r ŵyl ag angen cyfleusterau hygyrch.
Llety addas i gadeiriau olwyn ger Llandeilo: Llety Mieri
Mae ganddynt 3 bwthyn sy’n hygyrch. Mae Llety Mieri oddi ar y B4300.
Ffilm fechan o un o’r bythynnod

Edrychwch ar du mewn y bythynnod https://vimeo.com/440984514

Bwthyn gwyliau Strangwrach

7 milltir o Landeilo

Gwefan https://www.holidaycottagewales.com/

Ystafelloedd hygyrch yn y Plough Rhosmaen

3 milltir o Safle’r Ŵyl yn Ninefwr

Cefnogir gan

^
Cymraeg