body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Can y Coed – Cheryl Beer

Artist - Can y Coed – Cheryl Beer

Cân y Coed Song of the Trees:
Cylch Gwrando Ffawydden Y Frenhines
Sadwrn 8 Gorffennaf, 12.30pm-2pm
Beech Wood – meet at the Information point at 12pm

BSL

Dychmygwch fedru gwrando ar y gerddoriaeth sy’n digwydd tu mewn i goeden. Ymunwch â’r artist sain amgylcheddol Cheryl Beer yn harddwch y goedwig ffawydd i glywed sut y gwnaeth ailwampio technoleg cymorth clyw i wneud cerddoriaeth gyda choed o goedwigoedd glaw hynafol Cymru, gan gtysylltu sain, llesiant a’r amgylchedd).

Mae’r artist synau amgylcheddol a chyfansoddwraig â nam ar ei chlyw, Cheryl Beer, wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda Choedwigoedd Glaw hynafol Cymru, yn cyfansoddi cerddoriaeth sydd wedi ei harwain gan systemau fasgwlaidd pump o’r ardaloedd sy’n weddill. Mae ei gwaith yn ail uno tiroedd Celtaidd hynafol a fyddai wedi eu cysylltu dan y pridd unwaith gan edafedd mân pluog y ffwng myseliwm, gan sefyll fel un goedwig law ryfeddol ond sydd heddiw yn dameidiog a bregus. Trwy ganfod defnydd newydd i gymorthyddion clyw ac offer sain biofeddygol sensitif, mae Cheryl wedi casglu biorythmau sy’n cael eu creu yn ddwfn yn y coed, rhedyn a mwsogl, gan ddefnyddio’r recordiadau yma i ddatgelu a chyfansoddi Symffoni lle mae pob nodyn cerddorol a chwaraeir yn cael ei arwain gan y coedwigoedd glaw hynafol eu hunain.

Cefnogir gan

^
Cymraeg