body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Christine Cooper – The Battle of the Trees

Artist - Christine Cooper – The Battle of the Trees

Christine Cooper & Ceri Rhys Matthews
Sadwrn 8 Gorffennaf, 2pm-3.30pm
Gwenllian.

Mae Christine Cooper yn chwedleuwriag a cherddor o Sir Benfro yn wreiddiol, ond yn byw ym Mhowys erbyn hyn, gydag angerdd am gyswllt â natur. Yn 2010 gorffennodd gwrs Meistr mewn Celfyddydau ac Ecoleg yng Ngholeg Celf Dartington, gyda phwyslais ar chwedleua. Bu’r darn wnaeth ddeillio o hynny, The Battle of the Trees, yn teithio’n eang yn y Deyrnas Unedig, Canada, UDA a Sgandinafia, ac fe’i rhoddwyd ar y rhestr fer am ddwy Wobr Brydeinig am Ragoriaeth mewn Chwedleua. Yn 2015 symudodd i Helsinki i ddechrau astudio ar gwrs Meistr mewn Cerddoriaeth Werin yn Academi Sibelius, lle’r oedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar waith perlesmair a defodau. Ar ôl saib oherwydd heriau iechyd, mae Christine yn ailgysylltu â’r byd gydag ymdeimlad newydd o bwrpas.

Yn Beyond the Border 2023 bydd yn perfformio The Battle of the Trees, gwe gymhleth o storïau, gyda cherdd chwedlonol hynafol a wnaeth ysbrydoli Tolkein a Shakespeare yn ganolog iddi.

Tynnir colli miliynau o goed yn storm 1987, cloddio archeolegol ar draeth pellennig yn East Anglia, bardd rhyfel wedi ei ysbrydoli, a hanes teuluol Christine ei hun at ei gilydd trwy eiliadau sy’n fwy na chyd-ddigwyddiad. Yn cynnwys Ceri Rhys Matthews ar y ffliwt, clarinét a’r pibau, ynghyd â ffidl a llais Christine.

“At the heart of this stands a charismatic and highly skilled teller of tales – musician to boot – and a lattice of stories that are woven together into something quite special” **** Fringe Review

Battle of the Trees Trailer

Cefnogir gan

^
Cymraeg