Strets & Frets
Sul 9 Gorffennaf, 12pm-1.30pm & 3pm-4.30pm
Castell Dinefwr
Yn y dechreuad, roedd cydbwysedd. Nos yn dilyn Dydd, byddai Haf a Gaeaf yn ymddangos yn eu tro. Yna, un diwrnod, dewisodd Rhiannon, wedi diflasu ar y cylch di-ddiwedd,
ei dorri - gan droelli’r byd i gyd, chwalu’r cydbwysedd a chreu anhrefn.Dilynwch chwedlau Rhiannon, Blodeuwedd, a Phryderi trwy gyfnod pan oedd hud yn ymlwybro drwy dirwedd Cymru, straeon rhyfeddol am gewri yn llenwi’r
awyr, brwydrau epig, a dewiniaid yn bwrw eu swynion. Bydd addasiad dyfeisgar a hudolus Theatr Struts a Frets o’r chwedl glasurol Gymreig,Y Mabinogion, yn mynd â chi ar daith gyffrous gyda phypedwaith cywrain, adrodd straeon
heb eu hail a cherddoriaeth wreiddiol.
(dewch â blanced i eistedd ar y gwair)