A allaf wersylla gyda Thocyn Dydd?
Na. Er mwyn aros yng Ngwersyll Beyond the Border neu’r safle Cerbydau i Fyw Ynddynt, rhaid i chi brynu tocyn penwythnos.
A allaf dalu am aros yn y gwersyll ar y diwrnod?
Na. Mae’r lle yn y gwersyll a’r safle cerbydau i fyw ynddynt yn brin, ac rydym yn disgwyl i’r lleoedd yma werthu i gyd yn eithaf buan.
O ba ddiwrnod y gallaf aros?
Bydd y gwersyll yn agor o ddydd Gwener 7 Gorffennaf am 11am a bydd yn cau ar ddydd Llun 10 Gorffennaf am 11am.
Nid yw’r rhaglen o ddigwyddiadau yn dechrau ar y dydd Gwener tan 6pm.
A oes unrhyw gysylltiad trydan ar gyfer y safle cerbydau i fyw ynddynt?
Na. Bydd angen i chi fod yn hunangynhaliol. Bydd gennym ardal doiledau a chawod benodol ar y safle gwersylla a’r safle cerbydau i fyw ynddynt.
A allaf yrru fy nghar ar y safle gwersylla neu faes yr ŵyl?
Er mwyn iechyd a diogelwch pawb sy’n aros ar y safle gwersylla nid ydym yn caniatáu cerbydau ar y safle. Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cyfle prin i wersylla ar ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr ond mae’r cae lle bydd y safle gwersylla ar fferm weithredol a dim ond un lôn gul sy’n arwain yno. Mae diogelwch ein cwsmeriaid yn holl bwysig a dyna pam nad ydym yn caniatáu cerbydau ar y safle gwersylla. Ond mae maes parcio yn union wrth ymyl y fynedfa i’r ŵyl ac mae 5 munud o waith cerdded o fynedfa safle’r ŵyl i’r safle gwersylla.
Bydd gennym drolis trwm ar gael a bygis i gludo pobl ar y safle.
Efallai y bydd arnaf angen cymorth ychwanegol i fynd o gwmpas safle’r ŵyl. Beth allaf i ei wneud?
Efallai y bydd arnaf angen cymorth ychwanegol i fynd o gwmpas safle’r ŵyl. Beth allaf i ei wneud?
Os bydd arnoch angen rhagor o gymorth, cysylltwch â’n tîm ar info@beyondtheborder.com cyn yr ŵyl i roi gwybod i ni sut y gallwn roi cymorth i chi yn ystod eich ymweliad.
Pa ddarpariaeth mynediad sydd ar gyfer safle’r ŵyl? Rwyf am gael mwy o wybodaeth am barcio, gwersylla a darpariaethau’r ŵyl?
Rwy’n Aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Faint ddylwn i ei dalu?
Mae gennym docynnau am brisiau gostyngol ar gyfer aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan fyddwch yn mynd i’r dudalen dalu. Pan ewch chi i’r dudalen dalu gofynnir i chi roi eich rhif aelodaeth. Byddwn yn croesgyfeirio rhifau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Rwy’n byw yn lleol, a oes tocynnau am bris gostyngol ar gael?
Oes. Os ydych yn byw’n lleol mae nifer gyfyngedig o Docynnau Dydd am bris gostyngol ar gael. Anfonwyd taflenni at y rhai sy’n byw mewn ardal cod post SA ger Dinefwr. Os nad ydych wedi derbyn y wybodaeth hon a’ch bod am gael gwybod rhagor, anfonwch e-bost at info@beyondtheborder.com
A allaf ddod â’m ci i’r ŵyl?
NI chaniateir i gŵn ddod i’r lleoliadau oni bai eu bod yn Gŵn Cydymaith neu Gŵn Arwain.
Mae Dinefwr yn fferm weithredol gyda gwartheg, ceirw a defaid. Caniateir cŵn ar safle’r ŵyl ond rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth.
A yw’r rhaglen yn addas i blant ifanc?
Ydi! Rydym yn trefnu cymysgedd o ddigwyddiadau chwedleua a gweithgareddau sy’n addas i bawb o deuluoedd ifanc i oedolion.
A fydd stondinau bwyd?
Bydd gennym amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd ar gael ar y safle gan gynnig y bwyd lleol a Chymreig gorau i chi.
Rwy’n berfformiwr a hoffwn fod yn yr ŵyl. Sut gallaf wneud cais?
Rwy’n berfformiwr a hoffwn fod yn yr ŵyl. Sut gallaf wneud cais?
Rydym yn ŵyl chwedleua ac yn chwilio am y storïau gorau mewn cerddoriaeth a pherfformiadau. Rydym yn croesawu ceisiadau ar e-bost ond ni allwn warantu y byddwch yn gallu perfformio yn yr ŵyl.
Mae rhaglen 2023 bron iawn ar ei ffurf derfynol, a byddwn yn cyhoeddi’r rhaglen lawn yn y flwyddyn newydd.
E-bost info@beyondtheborder.com
Rwyf am wirfoddoli yn yr ŵyl. Sut gallaf wneud cais?
Applications are now open to volunteer at Beyond the Border. If you have already applied we will notify you within a few weeks. We will notify you as soon as we can.