Mae gwersylla yn brofiad hollol unigryw ar gyfer unrhyw un sy’n dod i Dinefwr. Mae’r lle arbennig hwn yn golygu y byddwch yn aros ar dir sydd yng ngofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a CADW.
Nifer gyfyngedig iawn o leoedd sydd ar gael ar ein cae Gwersylla a hefyd y safle Cerbydau Byw a Chysgu. Rhagwelwn y bydd y ddau safle yn llenwi yn fuan felly byddem yn eich cynghori i archebu’n gynnar os dymunwch aros ar y safle.
Ni yw’r unig ŵyl ym Mhrydain sy’n cynnig profiad anhygoel fel hwn. Byddwch yn gwersylla dan y sêr, wrth droed olion castell hanesyddol. O fewn tafliad carreg o gae yr ŵyl, bydd sŵn anifeiliaid i’w glywed yn y goedwig yn eich ymyl ac ystlumod yn hedfan yn y nos. Caiff llawer o’r bywyd gwyllt ei warchod felly efallai y gwelwch y gwartheg gwyn, glöynnod byw prin, moch daear neu geirw.
Mae’r maes gwersylla o fewn 5 munud o fynedfa’r ŵyl.
Mae tocynnau safle gwersylla a safle cerbydau byw-a-chysgu yn rhoi mynediad i’r safle gwersylla a’r safle cerbydau byw-a-chysgu o ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023 10am – dydd Llun 10 Gorffennaf 10am.
Pan fyddwch yn archebu eich tocyn cofiwch ychwanegu tocyn Gwersylla a nodi faint o bobl fydd yn aros ar eich llain. Nid yw pris tocyn penwythnos yn cynnwys y safle Gwersylla na Cherbydau Byw a Chysgu.
Byddan nhw’n darparu amrywiaeth o opsiynau o’u pabell gloch sylfaenol i’r dewis moethus. Bydd y Pebyll Cloch wedi’u lleoli’n gyfleus ar y Safle Gwersylla, ychydig funudau yn unig ar droed o ganolfan yr ŵyl.
Dyma’r prisiau:
Pabell Sylfaenol – Crëwch eich profiad bwtîc eich hun ar gyllideb!
Pabell gloch gynfas 5m
Llawr carped
Gwelyau aer – ychwanegiad dewisol
O £295
Yn addas i hyd at 5 o bobl fesul pabell
Pabell Safonol – Dewch â’ch dillad gwely eich hun
Pabell gloch gynfas 5m
Llawr carped
Gwelyau futon gyda matresi go iawn
Byrddau ymyl gwely Indiaidd
Llusern fatri
Goleuadau bach a baneri
O £425
Yn addas i hyd at 5 o bobl fesul pabell
Pabell Foethus – Popeth y mae arnoch ei angen yn barod i chi!
Pabell gloch gynfas 5m
Llawr carped
Gwelyau futon gyda matresi go iawn
Byrddau ymyl gwely Indiaidd
Llusern fatri
Goleuadau bach a baneri
Duvets gaeaf a gobenyddion
Dillad gwely a thywelion cotwm 100%
O £495
Yn addas i hyd at 5 o bobl fesul pabell
Archebwch eich Pabell Glampio yn uniongyrchol trwy wefan Glampio Cymru
Ebost: info@glampingwales.co.uk
Nodiadau defnyddiol cyn archebu
Sylwch nad yw’r ffi fynediad i’r ŵyl wedi’i chynnwys. Mae’n rhaid prynu tocynnau ar wahân trwy wefan Beyond the Border
Mae glampio ar gael ar gyfer pobl sydd â thocyn penwythnos yn unig.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu tocyn Penwythnos yr Ŵyl ar gyfer 7 Gorffennaf cyn archebu gyda Glampio Cymru.
Nid oes angen i chi brynu tocyn Safle Gwersylla trwy swyddfa docynnau Beyond the Border pan fyddwch yn archebu Glampio gan fod hyn wedi’i gynnwys yn y pris.
Os ydych eisoes wedi prynu tocyn Safle Gwersylla, fe allwch gael ad-daliad. Cysylltwch â Swyddfa Docynnau Beyond the Border ar 01792 602060.
(oriau agor yw 1pm-5pm GMT dydd Llun i ddydd Gwener).
Mae Telerau ac Amodau llawn Glampio Cymru ar gael ar eu gwefan. Sylwch na ellir archebu Pebyll Glampio trwy Beyond the Border a bod rhaid eu prynu cyn yr ŵyl. Ni ellir eu prynu ar safle’r ŵyl.