Podlediad o straeon a ymddangosai i fod yn effeithio ar argyfwng. Roeddwn yn gwybod am rai o’r straeon ers blynyddoedd maith ond dim ond dwy roeddwn wedi eu dweud o’r blaen. Roedd yn rhaid i mi addasu fy null perfformio – ni fedrwn ddefnyddio cliwiau gweledol megis edrychiad wyneb neu ystum, ac roedd yn rhaid i mi eu dweud mewn ffordd sgwrsiol, agos atoch yn hytrach na llenwi gofod theatr gyda fy llais. Mae gen i nawr chwe stori newydd rydw i’n awyddus i’w dweud yn ‘fyw’ pan fydd amgylchiadau’n caniatáu hynny. Rwy’n ddiolchgar am gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru/Cronfa Sefydlogi y Loteri Genedlaethol sydd wedi fy ngalluogi i ymchwilio a datblygu fersiynau newydd oedd yn gweddu’r cyfrwng a’r cyfnod.
Cafodd ei lawrlwytho dros 1800 o weithiau! Mae pobl wedi gwrando yn America, Yr Almaen, Romania, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Singapore, Sweden, Serbia, Gwlad Belg, Iwerddon, yr Eidal, India, Sbaen a’r Swistir yn ogystal â Phrydain. Bu hyn yn neilltuol o galonogol i fi yn ystod Brexit. Mae’r negeseuon a gefais yn awgrymu fod y podlediad wedi cyflawni ei nod – cysur a dihangfa fer o’r dryswch, pryder ac ansicrwydd y pandemig.
Gallwch gael gafael arnynt drwy fy ngwefan www.danielmorden.org. Croesawn unrhyw sylwadau am y prosiect.
Ar gyfer oedolion y mae: mae ychydig o fomentau anesmwyth, ond yn bennaf mae’r argymhelliad oedran oherwydd bod y straeon yn gweithio’n well gyda phobl sydd â phrofiad o fyw. Mae pawb ohonom yn gorfod aros gartref ar hyn o bryd, ond meddyliais fod gan y rhan fwyaf o bobl fynediad i’r rhyngrwyd, felly mae’r podlediad yma’n galluogi pobl na fyddent fel arfer yn gallu cyrraedd sioeau i fwynhau straeon. Gymaint ag y byddwn yn hoffi gwneud hynny, ni allaf fynd i bobman. Mae’r podlediad wedi teithio’n llawer mwy eang nag a wnaf i erioed.
Roeddwn yn blentyn oedd yn marchogaeth ar geffylau dychmygus o amgylch y maes chwarae. Fe wnes ddarganfod chwedleua diolch i ddosbarth nos gan Sally Pomme Clayton yn 1988. Agorodd y sesiwn gyntaf drwy adrodd stori Baba Yaga. O mam bach! Beth ddigwyddodd? Gyda fy llygad ar gau, gallwn weld y cyfan! Roedd yn well na’r sinema! Roedd hi a’i chydweithwyr Ben Haggarty a Hugh Lupton yn hael tu hwnt gyda’u hamser a’u harbenigedd wrth i mi ddechrau fy ngyrfa chwedleua.
Yn ogystal â’r perfformiadau unigol, rwy’n aml yn gweithio gyda The Devil’s Violin www.thedevilsviolin.co.uk. Rwyf wedi ysgrifennu llawer o lyfrau plant yn seiliedig ar straeon traddodiadol. Gallwch eu gweld yma
https://www.gomer.co.uk/catalogsearch/result/?q=daniel+morden
Mae’r dull celf hwn yn fy nghyfareddu a rydw i’n methu’n lân â deall pam nad yw mor boblogaidd â stand-yp.
Caf fy nhemtio i gymryd arnaf fy mod wedi bod yn cyfieithu yr Iliad neu wedi dechrau ar ymwybyddiaeth ofalgar, ond y gwir trist yw mai fy narganfyddiad cyfnod clo yw STEREO UNDERGROUND (BBC Sounds). Mae’n sioe radio leol gyda chyflwynydd hoffus sy’n chwarae pync/indi, yn llawn straeon gwrandawyr o brofiadau chwithig yn gigs y Stranglers ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Ac mae Cwis Tafarn Rhithiol! Bu’r rhuthr adrenalin a ddaw o ailddarganfod cordiau cyntaf cân fel ANARCHY IN THE UK yn uchafbwynt sawl diwrnod.