Ar ôl clywed cymaint am yr Ŵyl Chwedleua Genedlaethol Tenessee, roeddwn wrth fy modd o gael y cyfle i ymweld fy hun eleni. Pan sylweddolais ei bod yn 50 mlwyddiant,fed a’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yn y cnawd ers y pandemig, roedd yn teimlo’n fwy addawol fyth cael mynd. Yn yr un modd â sawl un arall, rwyf wedi ymuno yn y profiadau ar-lein dros y 2+ flwyddyn ddiwethaf, ond wnaiff hynny byth gymharu â bod yno yn y cnawd, pan fydd eich ôl troed carbon yn caniatáu hynny.
Fel sy’n chwedlonol, cefais fy nwbl ryfeddu at faint y pebyll! Gosodir pum pabell anferth ar draws y dref - y fwyaf â lle i 2,000+ eistedd, a hyd yn oed y babell ‘Creekside’ lai yn dal 800 yn ôl fy nghyfrif i. Mae’r ŵyl hefyd yn cymryd y Ganolfan Chwedleua Ryngwladol drosodd, sy’n gweithredu trwy’r flwyddyn yn y dref, a’r parcdir gerllaw, gan gynnwys dwy noson o storïau ysbryd, sy’n cyd-fynd yn berffaith â’r dyluniadau Calan Gaeaf gwych o gwmpas y dref. Gwerthir tocynnau ar wahân i’r digwyddiadau yma ac maent yn tynnu pobl o’r ardal gyfagos, yn ogystal â thyrfa’r ŵyl.
Fel yr oeddwn wedi clywed gan eraill, roedd y rhan fwyaf o raglen yr ŵyl yn cael ei dynnu o storïau personol -ond yn sicr roedd digon o amrywiaeth - Peter Chand o’r Deyrnas Unedig yn cynnig cyfres o chwedlau gwerin Indiaidd oedd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, gan gynnwys sesiwn ar y cyd gydag Elizabeth Ellis a adroddodd fersiwn Appalachaidd o’r Cap Brwyn. Rhannodd Charlotte Blake Alston chwedlau o Ghana, gan annog cynulleidfa lawn i ganu mewn harmoni gyda’i gilydd, a hanes wedi ei ymchwilio’n fanwl am y Six Triple Eight, y bataliwn o ferched du yn unig cyntaf i wasanaethu yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y ddau’n eithriadol! Uchafbwynt mawr arall i mi oedd Kevin Kling wych - diflannodd awr a dreuliwyd yn ei gwmni fel y gwynt, cymaint o ddealltwriaeth a doethineb wedi ei lapio mewn stori a chwerthin. Ar hyd y penwythnos roedd llawer o gyfleoedd i fwynhau’r amrywiaeth o wahoddedigion arbennig yr ŵyl, yn ogystal â slam stori un tro yn unig a chwedleuwyr cyfnewid o wyliau eraill, ac roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod rhai o’r cynulleidfaoedd chwedlau mwyaf cyfeillgar a hael sydd ar gael. Am brofiad.
Ar ôl hyn teithiais ar y trên i Efrog Newydd ac roeddwn yn ddigon ffodus o gael aros gyda’r chwedleuwraig Laura Simms a roddodd olwg rhywun lleol i mi ar y ddinas. Un noson, fe wnaethom gyfarfod Joseph Sobol am daith i The MothRoedd y slam stori hon oedd wedi gwerthu’r tocynnau i gyd yn siop lyfrau Housing Works, menter gymdeithasol sydd hefyd yn cynnig gofal iechyd a gwasanaethau eiriolaeth. Roedd y seddi’n orlawn, y balconïau’n gwegian, wrth i 10 chwedleuwr a dynnwyd o het rannu storïau 5 munud ar thema ‘Gwisgoedd’. Er bod y dull sgorio yn dal yn enigma llawn cyfrinachau, roedd y noson hon o adloniant wrth fodd y dyrfa ifanc, gosmopolitanaidd - ac fe’m gadawodd i ystyried atyniad profiad dilys sy’n cael ei rannu, yn ein cyfnod o newid a heriau.
Wrth i mi orffen fy nhaith, roeddwn yn falch o gael ychydig o ddealltwriaeth o waith celf yr Americanwyr Cynhenid, yn cael ei arddangos yn y Smithsonian Museum of Native American History history (housed in the Alexander Hamilton Custom House, a call back to earlier in my trip) a The Metropolitan Museum of Art. Mae gwaith cyfoes ar gomisiwn yn eistedd ochr yn ochr â darnau hanesyddol, ac mae’r haenau o fanylder a chrefft yn rhyfeddol - y ‘jingle dress’, a wnaed yn llwyr o bapur ysgrifennu fel teyrnged i awduron cynhenid, y mae eu henwau wedi eu hysgrifennu ar bob jingle - a gwisg a ddyluniwyd yn defnyddio meddalwedd Adobe, yn efelychu’r wisg hanesyddol yn y cwpwrdd agosaf ati. Mae’r paneli dehongli’n cyfeirio at systemau gwerthoedd lle nad yw amser yn llifo mewn llinell syth, lle mae gwrthrychau a wnaed gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn dal i wneud y gwaith a fwriadwyd gan eu gwneuthurwyr, meini prawf i fyfyrio arnynt, wrth barhau i gefnogi rhannu storïau sy’n cael eu trosglwyddo i’r dyfodol trwy gael eu dweud yn awr. Amser i anelu’n ôl i’r Deyrnas Unedig, gyda diolch i bawb a wnaeth y daith hon yn bosibl, tan tro nesaf.
Ariannwyd ymchwil Naomi gan raglen UK Creative Cultural Fellows NAS & Derby Musesums, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a’r Sefydliad Calouste Gulbenkian.
Diolch i Ŵyl Chwedleua Genedlaethol Jonesborough
Gallwch gael mynediad at fersiwn Rithwir Gŵyl Chwedleua Genedlaethol Jonesborough o 28 Hydref yma: https://www.storytellingcenter.net/festival/virtual-festival/