Pypedwraig sy’n adrodd storïau yw Jo Munton o Ganolbarth Cymru sydd wedi perfformio o Sbaen i Siberia, o Ynys Môn i Ben-y-bont ar Ogwr.
Roedd ei sioe ar-lein ddiweddaraf, ‘The Tales I was Told Tell” yn rhan o breswyliad i bypedwyr rhyngwladol, ac yna fe’i cefnogwyd gan Ŵyl Bypedau Newcastle, Moving Parts.
Mae Jo yn un o Gyfarwyddion Cyfoes Hwb Chwedleua Myseliwm ynghyd â Mair Tomos Ifans a Deb Winter a fydd yn rhannu tameidiau o’r chwedlau a gasglwyd yn ystod eu cyfnod preswyl o flwyddyn ar draws Cymru.