Nos llun 23 Ionawr, 7pm-8.30pm
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Beyond the Border ar-lein ac rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwedleua yng Nghymru, y cwmni, a’r ŵyl i fod yn rhan o’n cyfarfod ar 24 Ionawr. Yn y cyfarfod byddwn hefyd yn cyhoeddi y brif raglen o artistiaid sydd wedi cadarnhau y byddant yn perfformio yng Ngŵyl Beyond the Border 7-9 Gorffennaf 2023 yn Ninefwr.
Dyma eich cyfle i glywed y newyddion diweddaraf gan Beyond the Border hefyd. Ond nid dim ond amdanom ni y mae’r cyfarfod. Rydym hefyd yn defnyddio’r cyfle hwn i wrando arnoch chi a’ch syniadau am chwedleua yng Nghymru. Rydym am glywed barn chwedleuwyr, crewyr, ymarferwyr gweithdai, cynhyrchwyr, lleoliadau a chynulleidfaoedd. Bydd y trafodaethau gwerthfawr yma yn ein helpu’n fawr fel sail i’r dyfodol a’r ffurf yng Nghymru.
Nos llun 23 Ionawr, 7pm-8.30pm
ARCHEBWCH trwy Eventbrite