Mae Tamar Eluned Williams yn chwedleuwraig sydd wedi ennill gwobrau ac mae’n adrodd ei storïau yn Gymraeg a Saesneg. Mae wedi gweithio yn genedlaethol a rhyngwladol fel perfformiwr a hwylusydd gweithdai, gan greu sioeau chwedleua i gynulleidfaoedd o bob oed, a gweithio gydag ysgolion, amgueddfeydd, gwyliau a theatrau ar draws y byd. Hi yw hanner y Greenbank Hags, sy’n curadu a chynhyrchu STORYPUB, ymarferwr creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru, a Chydlynydd Ymgysylltu i Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border. Dyfarnwyd y wobr genedlaethol Chwedleuwr Ifanc y Flwyddyn 2013 iddi, a Gwobr Esyllt Harker gan Ŵyl Beyond the Border yn 2016.