body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Anne Lister

Mae Anne Lister yn rhannu un o’i phrosiectau diweddaraf fel rhan o Ysbrydoli / Inspire ym mis Gorffennaf. Bu’n edrych ar “The Tale of Jaufre”, sef chwedl Arthuraidd o’r 13eg ganrif, ac yn addasu’r chwedl ar gyfer cynulleidfaoedd mewn clybiau a gwyliau.
looking at the Tale of Jaufre the 13th century Athurian story and adapting this for audiences at
clubs and festivals.

Beth yw’r prosiect rydych yn gweithio arno?

A ydych chi’n gofyn i mi ddewis un yn unig? Fy mhrif obsesiwn yw “The Tale of Jaufre”, sy’n stori Arthuraidd o’r 13fed eg ganrif, a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn yr iaith Ocsitaneg ar gyfer un o frenhinoedd Aragon. Dwi wedi bod wrth fy modd â’r chwedl hon ers i mi ddod ar ei thraws gyntaf fel myfyriwr israddedig yn y ‘70au, a dwi wedi bod yn ymchwilio iddi ers 2015 fel darn i’w adrodd (fel rhan o fy ngradd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2019). Dwi wedi bod yn adrodd y chwedl yn Saesneg i gynulleidfaoedd o bob math, o academyddion i glybiau adrodd storïau a gwyliau. Mae “Jaufre” yn hir iawn ac yn episodig, a phrosiect mawr yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud fu ysgrifennu ac wedyn recordio addasiad Saesneg llawn o’r gwaith gwreiddiol. Mae cyfieithiad Saesneg academaidd da ar gael, ond roeddwn i eisiau cyfleu arddull naratif bywiog hanfodol y gwreiddiol, yn ogystal â’r hiwmor a’r hynodrwydd.

Yn ogystal â’r addasiad, dwi wedi bod yn edrych i mewn i hanes cefndir creu “Jaufre”, sy’n ddiddorol dros ben, a nawr dwi’n ystyried sut i ysgrifennu nofel hanesyddol am rai o’m darganfyddiadau. Yn y cyfamser, dwi hefyd wedi gorffen fy ail nofel, sy’n ffantasi borthol ac yn cynnwys rhai o’r cymeriadau o “Jaufre” yn ogystal â chymeriadau eraill o’r Mabinogion, a rhamantau Chrétien de Troyes a rhai gan awduron (gwirioneddol) o’r 12fed ganrif fel Gerallt Gymro a Walter Map. Yn ogystal, dwi wedi bod yn ysgrifennu rhagor o ganeuon, ac yn cynnal rhai gweithdai ar-lein ar ysgrifennu caneuon.fed century such as Gerald of Wales and Walter Map.  And I’ve been writing more songs, and running some songwriting workshops on line.

Sut all pobl gymryd rhan?

Dwi wedi bod yn adrodd penodau o’r stori mewn amryw o ddigwyddiadau adrodd storïau, a dwi’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn Casglu, ond os hoffech chi glywed y stori, dwi wedi gorffen ei recordio fel podlediad mewn 12 pennod. Mae ar gael trwy Spotify a Google Podcasts yn ogystal â’i gwefan gartref ar anchor.fm, a dwi hefyd wedi ysgrifennu blog ar fy ngwefan i (www.annelister.com) sy’n rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir ar bob “pennod”.

Dywedwch ychydig mwy wrthym amdanoch eich hun.

Dwi wedi bod yn “ysgrifennu” caneuon ers cyn i mi allu ysgrifennu, mewn gwirionedd, a pherfformio’n broffesiynol ar y gylchdaith cerddoriaeth werin ers dros 50 mlynedd. Mae fy nghaneuon bob amser wedi adrodd storïau, ac mae fy nghyflwyniadau i’r caneuon wedi mynd yn hirach wrth i amser fynd yn ei flaen, ac erbyn dechrau’r 1980au gofynnwyd i mi wneud rhai sesiynau a phrosiectau adrodd storïau mewn ysgolion. Dwi wedi teithio gyda’r gerddoriaeth a’r storïau, a’r gweithdai am y ddwy elfen, yn y DU, Iwerddon, yr UD ac Ewrop, ac mae cantorion eraill wedi defnyddio rhai o’m caneuon. Mae’n debyg mai’r gân fwyaf adnabyddus yw “Icarus”, ond mae caneuon eraill yn cael eu canu hefyd, gan deithio’n annibynnol arnaf i. Dwi wedi bod yn athro ac wedi gweithio gyda phob grŵp oedran, a hefyd dyfeisio a chynnal rhai gweithdai adrodd storïau mewn carchardai ar gyfer Kids Out a Storytelling Dads. Pan oeddwn i’n blentyn, roedd y teulu’n codi pac yn aml oherwydd swydd fy Nhad, ond ymgartrefom yng Nghaerdydd pan oeddwn i’n 10 oed. Es i Brifysgol Warwig, ac wedyn fues i’n byw yn Lyon yn Ffrainc ac yna yn Llundain am ychydig ddegawdau, mewn fflat fach yn St Katharine’s Dock. Fues i’n ddigon ffodus i ddod o hyd i gariad gwirioneddol ar y rhyngrwyd, yn ôl ar droad y mileniwm, a bellach dwi’n byw gyda fy ngŵr Steve (llanc o Gaerdydd) a dwy gath, ym Mlaenafon yn ne ddwyrain Cymru. Roeddwn i’n bwriadu ail-lansio fy ngyrfa canu ac adrodd storïau yn 2020, ar ôl holl waith caled y PhD, a rhyddhau fy 9fed fed albwm, “Astrolabe”, ym mis Rhagfyr 2019. Wel, aeth hynny’n dda, on’d do?

Beth ydych chi wedi bod yn edrych arno ar-lein yn ystod y cyfnod clo? Ydych chi wedi gweld unrhyw beth y credwch y dylai eraill fod yn edrych arno?

Mae fy ngŵr yn hoff iawn dros ben o “Star Wars” (ac wedi treulio cyfnod y cyfyngiadau symud yn adeiladu ei arfwisg “Shoretrooper” ar fwrdd ein cegin) a chyflwynodd fi i “The Mandalorian”, a dwi i wrth fy modd â’r gyfres. Mae’n gyfuniad o ffuglen wyddonol, ffilmiau cowbois a themâu Arthuraidd mwy chwedlonol. Dydyn ni ddim yn gwylio llawer o deledu ond dwi hefyd wedi gwirioni ar “Dix Pour Cent”, neu “Call My Agent”, sydd hefyd yn dda o ran dal ati i loywi fy Ffrangeg, ac rydym yn dal i fyny’n araf bach â “Schitt’s Creek“. Ar y radio, dwi wedi dwlu ar Natalie Haynes a’i dehongliad o fytholeg Gwlad Groeg, a’r gyfres ddiweddaraf o “John Finnemore’s Souvenir Programme” sydd wedi bod yn bos jig-so rhyfeddol o olygfeydd teuluol rhyng-gysylltiedig. Bu’n rhaid i mi wrando fwy nag unwaith ar bob un o’r rhaglenni hyn, ond dwi wrth fy modd â’r ffordd y mae wedi cysylltu adrodd storïau, ecsentrigrwydd teuluol ac elfennau ingol. Mae llawer o ddrama a hanes da ar Radio 4 a 4Extra felly dwi wrth fy modd â’r radio.

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg