Yn gweithio o Cemmas, Gwynedd
Pypedwraig sy’n adrodd storïau yw Jo Munton o Ganolbarth Cymru sydd wedi perfformio o Sbaen i Siberia, o Ynys Môn i Ben-y-bont ar Ogwr.
Roedd ei sioe ar-lein ddiweddaraf, ‘The Tales I was Told Tell” yn rhan o breswyliad i bypedwyr rhyngwladol, ac yna fe’i cefnogwyd gan Ŵyl Bypedau Newcastle, Moving Parts.
Mae’n ddysgwraig Cymraeg angerddol ond mae wedi gweld y broses yn araf. “Am fy mod yn ddyslecsig, rwy’n gwybod y gallaf fod yn arafach yn dysgu na’r rhan fwyaf. Rwyf wedi ailadrodd yr un cwrs ambell waith i adael i’r hyn dwi’n ei ddysgu setlo”.