Yn hanu o Athen, Gwlad Groeg, mae Demetri Petsalakis yn perfformio mewn amrywiaeth o arddulliau gyda ffocws ar liwtiau Groegaidd a'r Dwyrain Canol. Wedi'i ddylanwadu gan amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog Canada, mae Demetri yn ymgorffori elfennau cerddorol o wahanol draddodiadau er mwyn creu sain cyfoes sy'n cynrychioli ei dreftadaeth a hefyd y gymuned y mae'n rhan ohoni.
Fel aelod gweithgar o sîn cerddoriaeth byd Toronto, mae Demetri wedi recordio a pherfformio gyda grwpiau yn cynnwys y meistri oud Basam Bishara, a Christos Tsiamoulis yn ogystal â meistr y Lyra Cretaidd Astrinos Zaharioudakis a'r gitarydd jazz enwog Lornne Lofsky.