body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Gwenan Gibbard

Artist - Gwenan Gibbard

Mae Gwenan yn un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru. Mae wedi perfformio’n helaeth mewn gwyliau yng Nghymru a thramor, gan gyflwyno ei threfniannau ffres a chyfoes o’n caneuon a'n alawon traddodiadol.

Mae’n un o’r ychydig berfformwyr sy’n arbenigo yn yr hen grefft o ganu cerdd dant hunan-gyfeiliant, ac mae ei thrydydd albwm ar label Sain, Cerdd Dannau, yn gasgliad sy’n darganfod hen drysorau ac yn torri tir newydd ym maes cerdd dant. Yn ddiweddar bu'n perfformio fel rhan o'r prosiect 'Pedair' ynghyd a Sian James, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym.

Cefnogir gan

^
Cymraeg