Ers 2016 mae wedi bod yn teithio’r sioe ‘Gadael Tir‘ gydag Owen Shiers, ‘Hands of Time‘ ac yn fwy diweddar ei sioe ei hun, ‘4 Tales to Save the World’ gydag Adverse Camber. Mae'n ymddiddori yn hen chwedloniaeth Cymru (cafodd ei gyhuddo o fod yn ‘gyfrinydd adweithiol’!), ac mae’n diwtor achlysurol cyrsiau ar-lein ar Lenyddiaeth Geltaidd.