body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Karina Jones, Kate Lawrence and Daisy Williams

Artist - Karina Jones, Kate Lawrence and Daisy Williams

Bylchau

Daw dwy fenyw, un yn ddall, ar draws twll yn y gofod. Maent yn syrthio i mewn iddo ac yn ein llywio drwy deithiau dychmygus rhyfeddol. Mae Tyllau yn brofiad awyrol hardd, hwyliog, chwareus, cyfranogol a phryfoclyd ar gyfer pob oed.

Created by:

Mae Karina Jones yn actor gyda nam ar ei golwg ac mae hefyd yn artist awyrol, ymgynghorydd disgrifiad sain a hyfforddydd llais. Mae ei gwaith actio yn cynnwys y Royal Shakespeare Company, Theatr Clwyd, NTW, Graeae, Citizens Theatre Glasgow a Frantic Assembly. Mae ei hyfforddiant syrcas awyrol yn cynnwys Gemau Paralympaidd Llundain, Green Top Circus a Circus Oz. Mae ei pherfformiadau awyrol awyr agored yn cynnwys ‘Taking Flight’ gyda Rogue Play Theatre Company a thaith yn y Deyrnas Unedig gyda Extraordinary Bodies  http://karinajones.co.uk

Mae gan Kate Lawrence brofiad helaeth o weithio yn yr awyr agored. Mae'n gyfarwyddwr artistig Vertical Dance ac mae wedi gwneud gwaith ar gyfer adeiladau a strwythurau eiconig tebyg i Neuadd y Ddinas Belfast, Cadeirlan Guildford, Craen Dociau Bryste a Phîr Bae Colwyn yn ogystal ag mewn coed ac ar wyneb creigiau  http://www.verticaldancekatelawrence.com

Mae Daisy Williams yn berfformwraig awyrol brofiadol, gan arbenigo mewn cylch awyrol. Ar ôl gweithio fel newyddiadurwraig yn Llundain, ymunodd â syrcas deithiol yn perfformio ledled y Deyrnas Unedig. Gan ddychwelyd i Ogledd Cymru yn 2018, ymunodd Daisy a Syrcas Cimera ac mae'n gweithio fel perfformwraig unigol. mae hefyd yn gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol ar lenyddiaeth ar gyfer prosiect llesiant o amgylch Gogledd Cymru

https://cimera.co.uk/about/ – daisy-williams-aerialist-performer-and-instructor

 

 

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg