Mae Kerima yn chwedleuwraig, athrawes ac ymgyrchydd dros gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio i elusen fach sy’n gweithio mewn undeb â chymunedau o gwmpas y byd sy’n cael eu bygwth gan waith cloddio. Mae ganddi hefyd flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gydag ysgolion i greu deunyddiau i godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth am goloneiddio, yr amgylchedd, hiliaeth a hawliau menywod.
Bydd Kerima yn rhannu un o chwedlau epig pwysig a chyfarwydd India, y Ramayana.
Coedwig Dandaka yn nwyrain India yw'r lleoliad ar gyfer y Ramanaya. Heddiw mae coedwig Dandaka unwaith eto yn safle brwydr chwerw.
Caiff y rhyngblethiad bywiog hwn o stori gyfoes bywyd go iawn gydag ail-ddweud ffeministaidd o chwedl draddodiadol ei berfformio i anrhydeddu dewrder menywod a dynion ar reng flaen brwydr i warchod coedwig sydd mewn perygl o ddod yn lle na fydd ond yn bodoli mewn stori.
Oedran 12+
Pryd?
Dydd Sadwrn 5pm - CASGLU