Mae Llio Elain Maddocks yn fardd ac yn awdur, yn wreiddiol o Lan Ffestiniog ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Magwyd hi ger Afon Cynfal, tafliad carreg o'r man lle bu Blodeuwedd a Gronw'n cynllwynio i ddifa Lleu, a bu'n nofio yn y straeon a'r chwedlau hyn fel plentyn. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, 'Twll Bach yn y Niwl, yn 2020, ac mae ei cherddi i'w gweld ar instagram @llioelain.