body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Marta Singh

Artist - Marta Singh

Wedi'i genu a'i magu yn yr Ariannin, bu Marta yn byw yng Nghanada ers 2000 ac mae'n ymroddedig i grefft chwedleua traddodiadol.

Ers 2005 mae wedi ymddangos bob blwyddyn yn Fourth Stage Series Ottawa StoryTeller yn y Ganolfan Gelfyddydau Genedlaethol, yn cynnwys mewn perfformiadau o The Odyssey (2012) a The Illiad (2014) Fel artist unigol mae Marta wedi perfformio yn yr holl brif wyliau chwedleua yng Nghanada, yn ogystal ag mewn ysgolion, prifysgolion, cyfresi darlithio, gwyliau celfyddydol a llenyddol yng Nghanada, Mecsico a'r Ariannin (2005–2020).

Mae ei sioeau'n plethu darnau dewr o atgofion gyda gorffennol cyhoeddus yr Ariannin. Cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd Landscapes of Silence (2011), ei phrosiect cyntaf a ariannwyd gan Ddinas Ottawa, gan Two Women Productions.

Pryd?
Dydd Sadwrn & Dydd Sul
Wedi ei recordio yng Nghanada, i’ch clustiau chi yng Nghymru, mae Marta yn rhannu tair stori werin a chwedlau tylwyth teg wedi eu llunio’n berffaith fel ymateb i dirwedd Dinefwr, i chi eu harchwilio a’u mwynhau.

Cydnabyddiaeth llun: Hernán Piñeiro

Cefnogir gan

^
Cymraeg