Mae Menter Dinefwr yn fenter gymdeithasol sy’n cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg, adfywiad cymunedol a’r economi leol i greu cymunedau cynaliadwy, naturiol ddwyieithog a llewyrchus. Ers sefydlu yn 1999 mae’r mudiad wedi datblygu'n sylweddol ac ar fin agor canolfan gymunedol newydd yn Llandeilo. Mae gweithgareddau’r Fenter yn cynnwys cydweithio â mudiadau, cefnogi busnesau, cynnal gweithgareddau cymdeithasol amrywiol, clybiau gofal i blant, gweithgareddau i’r teulu, clybiau ieuenctid, gweithdai, a chydweithio ag ysgolion.