Cafodd Owen ei fagu yng Ngorllewin Cymru Owen a'i drwytho mewn cerddoriaeth Gymreig, o alawon hyfryd o weithdy telynau ei dad i fywyd ysgol a gwyliau megis yr Eisteddfod a'r Cnapan. Owen Mae Owen wedi defnyddio ei sgiliau fel cerddor, cyfansoddwr a pheiriannydd ar draws ystod eang o brosiectau, yn cynnwys gwaith ar nifer o brosiectau albwm yn Real World Studios ar albwm gwobrwyol Clychau Dibon gan Catrin Finch a Seckou Keita ynghyd â'r cynhyrchydd John Hollis.
Wedi'i enwebu ar gyfer 'Artist Unigol Gorau' yng Ngwobrau Gwerin Cymru a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 2019 , mae ei fand Cynefin Owen yn rhoi llwyfan i Owen ddefnyddio ei sgiliau trefnu a gitâr gwych ar yr un pryd yn mynd yn ôl i'w wreiddiau.
Fel rhan o'r Ŵyl bydd Owen yn perfformio cerddoriaeth a straeon o albwm dwyieithog cyntaf Cynefin 'Dilyn Afon' sy'n dilyn cynefin diwylliannol sir frodorol Owen, yn dechrau yng Nghwm Cletwr lle cafodd ei fagu. O anifeiliaid yn siarad a theithiau trên trist - i synfyfyrion cariadon trychinebus, gweision fferm a chrwydriaid unig, mae'r albwm yn rhoi ffenestr unigryw ar y gorffennol ac ar ddiwylliant llafur bywiog o stori a chân.
“A stunning new talent” – The Guardian
“Remarkable..compelling listening” – MOJO
“Evocative and beautiful” – The Folk Show, BBC Radio 2
Pryd?
Dydd Sul 3pm Pabell CASGLU