body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Phil Okwedy

Artist - Phil Okwedy

Newydd

Mae Phil yn chwedleuwr perfformio a chrëwr chwedlau sy’n tynnu’n fawr ar ei dreftadaeth ddeuol a’i ddiwylliannau
lluosog. Mae’n perfformio’n gyson mewn clybiau chwedleua a gwyliau ar draws Cymru, yn ogystal ag yng Ngŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden.

Cyfres o chwedlau gwerin o Gymru yw ei lyfr cyntaf, Wil & the Welsh Black Cattle sydd wedi eu plethu at ei gilydd a’u fframio o gwmpas chwedlau hen borthmyn y gorffennol.

Yn ddiweddar mae Phil wedi bod yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar Go Tell the Bees ac mae newydd gael comisiwn fel rhan o raglen Cynrychioli Cymru, Datblygu Awduron o Liw Llenyddiaeth Cymru.

Pryd?

Dydd Gwener 8pm – Pabell CASGLU
Dance of the Stickfighting Warriors

Mae’r cyfan yn cychwyn gydag enw, y daethpwyd o hyd iddo yng ngorsaf heddlu Cumbria yn yr 1930au... Yn cael ei hadrodd gan Phil, gyda cherddoriaeth gan Mickey Inderikey mae hon yn stori bwerus am ddod i adnabod eich hun; yn trafod erlid, ofn, lladdfa a chaethwasiaeth wedi eu plethu gyda’i gilydd mewn cyfres o storïau sy’n olrhain y daith o alltudiaeth a orfodwyd i ddychweliad penderfynol, ac sydd yn y pen draw yn dathlu’r modd y mae’r ysbryd dynol yn trechu gormes.
Oedran 12+

Pryd?

Dydd Sadwyn 8pm:Glyndŵr

The Gods Are All Here

Mae The Gods Are All Here yn cynnwys chwedlau, cerddoriaeth, chwedlau gwerin, a chyfres o lythyrau ‘caru’ a ysgrifennwyd gan dad Phil at ei fam sy’n ymdrin â’r cyfnod pan ddywedir bod plant yn gweld eu rhieni fel duwiau. Ag yntau heb erioed fyw gyda’i rieni, mae’r darn grymus ac emosiynol hwn yn archwilio’r llythyrau a phrofiadau Phil wrth dyfu, i weld a oedd ei rieni yn dduwiau mewn gwirionedd!

Oedran 12+

Wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Sefydlogi’r Loteri Genedlaethol.

Sul hanner dydd: Gwneud a Dweud - Stori Rownd gyda Deb Winter

Cefnogir gan

^
Cymraeg