Ganed Cathy yng Nglyn Nedd yng Ngorllewin Morgannwg.
Ar ôl astudio Celfyddyd Gain a Chynhyrchu Ffilmiau Annibynnol ar lefel gradd ac ôl-radd cychwynnodd ei gyrfa yn gweithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol ar gyfer ffilmiau a theledu.
Ymunodd â’r adran creu rhaglenni theatr yng Nghanolfan Chapter yn 2000 ac am yr 20 mlynedd nesaf bu’n chwarae rôl allweddol yn y sefydliad, gan ddatblygu, rhaglennu a chynhyrchu prosiectau theatr, cerdd, dawns a pherfformiadau arbrofol gan gynnwys yr ŵyl gelfyddydau byw ryngwladol flynyddol Experimentica.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio’n llawrydd fel Cynhyrchydd Creadigol gan weithio’n glos ac ar y cyd ag artistiaid annibynnol a sefydliadau o’r un meddylfryd.
Mae helpu artistiaid i wneud i bethau ddigwydd yn ganolog i’w holl waith.
Email: cathyeleriboyce@googlemail.com