Band o saith trawiadol - pob un ohonynt yn feistr ar ei grefft, yn cynnwys offerynnau traddodiadol Gorllewin Affrica, rhythmau heintus, symudiadau dawns ffrwydrol, a melodïau hudolus. Bydd eu perfformiadau llawn llawenydd yn cael pawb i symud. Maent yn hanu o Guinea, Senegal, y Gambia, Cote d'Ivoire, a Burkina Faso; mae eu doniau cerddorol wedi eu gwreiddio yn yr un hen draddodiadau ag a welwyd trwy’r Ymerodraeth Mandingue hynafol. Mae grym ac egni pur eu set yn rhyfeddu cynulleidfaoedd ble bynnag yr ânt. Ymgollwch yn y daith i Orllewin Affrica ac yn ôl - rydym yn gaddo y bydd gwên ar eich wyneb yn gadael!
Photo: Gergana Aleksieva