Ers mwy na 25 mlynedd, Beyond the Border yw prif Ŵyl Chwedleua ryngwladol Cymru gan ddod â straeon a phobl at ei gilydd, o Gymru a’r byd, trwy ŵyl eilflwydd sy’n ysbrydoli.
Bydd y lleoliad newydd, Parc Dinefwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cadw yn Sir Gaerfyrddin, yn croesawu Gŵyl Beyond the Border 2020 ar 3-5 Gorffennaf.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Naomi Wilds, “Rydym wedi treulio’r 12 mis diwethaf yn archwilio a phrofi rhai lleoliadau cyffrous i fod yn gartref i’r ŵyl. Roeddem eisiau cyfnerthu rhai o’r gwyliau chwedleua sy'n digwydd eisoes yng Nghymru, fel Aberystwyth sy’n cynnal gŵyl wych gydag amgueddfa Ceredigion eleni yn ogystal â digwyddiadau eraill ledled y wlad fel Chwedleuwr Ifanc y Flwyddyn yng Ngogledd Cymru. Mae’r bartneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr yn wirioneddol gyffrous. Mae’n lleoliad anhygoel, sy’n cynnig y ddihangfa hudolus a fu wastad yn rhan gref o’r hyn y mae’r ŵyl yn ei gynnig. Mae’r ardal yn llawn straeon ardderchog o hanes Cymru, a chwedlau. Roedd Dinefwr yn un o’r lleoliadau ble buom yn cynnal rhaglen beilot mewn chwedleua yn gynharach eleni, pan oedd cynulleidfaoedd hen a newydd wrth eu bodd gyda’r lleoliad a’r ffordd y gallai’r rhaglen ymgysylltu gyda’r dirwedd.”
Yn ogystal â chyhoeddi’r lleoliad, datgelodd Beyond the Border hefyd thema Gŵyl 2020, sef Ail-ddychmygu ein Dyfodol, a fydd yn bwrw golwg ar syniadau a dulliau gweithredu newydd, yn ogystal â thalentau cartref newydd. Dywedodd Naomi Wilds said, “Mae ‘Ail-ddychmygu ein Dyfodol’ yn cydio yn y cyfleoedd cadarnhaol y gall newid ei greu, gan ein cysylltu hefyd â’r llu o wahanol lwybrau ymlaen y gallem eu dewis. Does dim pall ar amrywiaeth a hyblygrwydd y straeon ac yn ogystal â’n diddanu maen nhw’n ein galluogi i gamu i ffyrdd eraill o fodoli, a chael hwyl fawr ar yr un pryd! O fewn y thema gyffredinol hon mae ceinciau cysylltiedig sy’n cynnwys:
Bydd rhaglen Ail-ddychmygu ein Dyfodol yn gymysgedd o artistiaid cyfarwydd i gynulleidfaoedd yn ogystal â lleisiau newydd. Ymhlith yr artistiaid sydd eisoes wedi eu cadarnhau mae Daniel Morden, Michael Harvey, Tim Ralphs, Phil Okwedy a Mickey Price, Tamar Eluned Williams, Mair Tomos Ifans, Cath Little ac Amy Douglas. Hefyd yr artistiaid rhyngwladol a gadarnhawyd yw Mimesis Heidi Dahlsveen (Norwy) Abbi Patrix and Linda Edsjô (Ffrainc).
Mae Cydlynydd Ymgysylltu Beyond the Border, Tamar Eluned Williams, hefyd yn gweithio gyda phedair ysgol leol a fydd yn perfformio yn y seremoni agoriadol ar nos Wener yr ŵyl.
Tra bod chwedleua yn ganolog i’r digwyddiad penwythnos, mae’r ŵyl yn cynnwys gweithgareddau cerddoriaeth, crefftau, natur a llesiant sydd wedi eu plethu drwy’r rhaglen ac o’i chwmpas.
“Tra bod Beyond the Border ar gyfer oedolion yn bennaf, bydd gennym gainc gref o raglenni ansawdd uchel ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc yng Ngŵyl 2020.”
Bydd nifer cyfyngedig o docynnau Deryn Cynnar yn mynd ar werth ddydd Gwener, 8 Tachwedd trwy beyondtheborder.com gan gychwyn ar £110 oedolyn, £50 plentyn oed 6-17 a tocynnau teulu £272.
Mae Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Uned Digwyddiadau Mawr, Ewrop Greadigol a’r Ffederasiwn Chwedleua Ewropeaidd.