body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Beyond the Border yn dod â chwedleuwyr, cerddorion a chynulleidfaoedd ynghyd mewn gŵyl fach rithiol

Cynhaliodd Beyond the Border, Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, ŵyl fach ar-lein undydd ar 4 Gorffennaf i nodi’r achlysur pan fyddai’r ŵyl wedi bod yn mynd rhagddi yn ei chartref newydd yn National Trust Dinefwr, Carmarthenshire.

Cyflwynwyd Ailddychmygu: Beyond the Border Ar-lein, gŵyl fach undydd ar dudalen Facebook Beyond the Border, YouTube e ac ar Zoom, ac roedd yn cynnwys cyfuniad ffrydiau - rhai’n fyw ac eraill wedi eu recordio ymlaen llaw - o chwedleua a cherddoriaeth yn Gymraeg a Saesneg.

Roedd rhai sesiynau yn rhad ac am ddim ac angen tocyn am y lleill. Mwynhaodd miloedd o gynulleidfaoedd o bob rhan o Gymru, Prydain ac mor bell ag Awstralia, America, Canada, Singapore, De Affrica a gwahanol rannau Ewrop amrywiaeth gyfoethog o straeon a recordiwyd ymlaen llaw ar gyfer teuluoedd ac oedolion, a fydd yn parhau i fod ar gael am bedair wythnos, yn ogystal ag ymuno’r ffrwd darlledu byw ar y dydd.

Agorodd y digwyddiad 11 awr (gyda chyfnodau egwyl!) gyda chroeso cynnes gan Tamar Eluned Williams, chwedleuwraig a Chydlynydd Ymgysylltu Beyond the Border, a ddilynwyd gan straeon i deuluoedd yn Gymraeg a Saesneg gan Cath Little, Mair Tomos Ifans a Hand to Mouth Theatre, a gyflwynwyd gan y chwedleuwr Michael Harvey ac yn cynnwys dwy stori gyda chapsiynau. Gydag ymroddiad i arddangos Cymru i weddill y byd a chefnogi datblygu chwedleua yn y Gymraeg, fe wnaeth Beyond the Border greu rhaglen wedi’i recordio ymlaen llaw oedd yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr newydd i rai ar lefel ganolradd, gyda straeon gan Fiona Collins, Cath Little a Guto Dafis.

Fe wnaeth Beyond the Border hefyd gludo cynulleidfaoedd i gartref newydd yr ŵyl gyda stori arbennig a recordiwyd ymlaen llaw a ffilmiwyd yn Ninefwr yn Sir Gaerfyrddin gan Phil Okwedy a’r gwneuthurydd ffilm Sam Irving, ac i Dartmoor gyda Lisa Schneidau, y ddau yn rhannu straeon a gafodd eu deffro gan y tirluniau hardd yma.

Yn y digwyddiad cyntaf o’i fath ar gyfer Beyond the Border, rhwng 4-9pm roedd yr Ŵyl yn rhannu 3 awr o ddarlledu byw yn defnyddio Zoom. Bu chwedleuwyr yn darlledu’n syth i gartrefi pobl yn ogystal â gweld wyneb y chwedleuwyr, roedd cynulleidfaoedd hefyd yn medru ymgysylltu a rhyngweithio gyda’i gilydd. Yn ystod y noswaith, cafodd cynulleidfaoedd eu cludo yn babell straeon rithiol i fwynhau straeon digri a doeth a sgwrs gyda Clare Murphy yn Nulyn, Iwerddon a Kevin Kling ym Minnesota, yn yr Unol Daleithiau yn trafod y byd newydd rydym yn symud iddo. Bu’r chwedleuwyr Ceri Phillips, Siân Miriam a’r cerddor Owen Shiers yn rhannu straeon a chaneuon gyda gwreiddiau dwfn yng Nghymru, gyda dehongliad BSL gan Tony Evans. Yn yr awr olaf bu un o ffefrynnau’r ŵyl TUUP, Mair Tomos Ifans a Ceilidh 15 munud terfynol gyda The Urban Folk Theory, ynghyd â’r gynulleidfa ar ei thraed yn dawnsio.

Dywedodd Naomi Wilds, y Cyfarwyddwr Artistig: Mae gwyliau yn gyfle gwych i ddarganfod profiadau newydd a hwyliog ac i ddathlu gyda’n gilydd. Roeddem wrth ein bodd gyda dewrder a menter y cynulleidfaoedd, yn mynd i mewn i’r parthau digidol hyn gyda ni a dod â nhw yn fyw. Yn ogystal â chael cyfle i gael amser gwych gyda’n gilydd, fe wnaeth y digwyddiad ein helpu i ymchwilio’r mathau o straeon mae pobl eisiau eu clywed a’u rhannu yn y cyfnod yma, a pha fathau o brofiadau y gallwn eu creu gyda’n gilydd yn y gofodau byw newydd ac esblygol yma. Fe wnaethom ddysgu cymaint a rydym yn awyddus i ddal ati i gael adborth gan gynulleidfaoedd, fel y gallwn ddal i gysylltu mewn cynifer o wahanol ffyrdd hyd at yr amser pan allwn gwrdd gyda’n gilydd yn y cnawd unwaith eto.”

Mae’r fideos a recordiwyd ymlaen llaw ar gyfer Ailddychmygu: Beyond the Border Ar-lein ar gael i’w gweld YouTube a Facebook tan 4 Awst 2020. Dim ond ar y dydd yr oedd y darllediad byw ar gael.

Reimagine Beyond the Border 2020 Online - Highlights

Cefnogir gan

^
Cymraeg