body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Blog post – Naomi Wilds research in the USA

Mae Naomi Wilds Beyond the Border yn ôl o’i thaith yn UDA, taith yn llawn archwilio, ysbrydoliaeth ac edrych ar gysylltiadau. Yma mae Naomi yn rhannu ychydig o’i hymchwil o’r ymweliad.

 

Ar ôl clywed cymaint am yr Ŵyl Chwedleua Genedlaethol Tenessee, roeddwn wrth fy modd o gael y cyfle i ymweld fy hun eleni. Pan sylweddolais ei bod yn 50 mlwyddiant,fed a’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yn y cnawd ers y pandemig, roedd yn teimlo’n fwy addawol fyth cael mynd. Yn yr un modd â sawl un arall, rwyf wedi ymuno yn y profiadau ar-lein dros y 2+ flwyddyn ddiwethaf, ond wnaiff hynny byth gymharu â bod yno yn y cnawd, pan fydd eich ôl troed carbon yn caniatáu hynny.

 

Fel sy’n chwedlonol, cefais fy nwbl ryfeddu at faint y pebyll! Gosodir pum pabell anferth ar draws y dref - y fwyaf â lle i 2,000+ eistedd, a hyd yn oed y babell ‘Creekside’ lai yn dal 800 yn ôl fy nghyfrif i. Mae’r ŵyl hefyd yn cymryd y Ganolfan Chwedleua Ryngwladol drosodd, sy’n gweithredu trwy’r flwyddyn yn y dref, a’r parcdir gerllaw, gan gynnwys dwy noson o storïau ysbryd, sy’n cyd-fynd yn berffaith â’r dyluniadau Calan Gaeaf gwych o gwmpas y dref. Gwerthir tocynnau ar wahân i’r digwyddiadau yma ac maent yn tynnu pobl o’r ardal gyfagos, yn ogystal â thyrfa’r ŵyl.

 

Fel yr oeddwn wedi clywed gan eraill, roedd y rhan fwyaf o raglen yr ŵyl yn cael ei dynnu o storïau personol -ond yn sicr roedd digon o amrywiaeth - Peter Chand o’r Deyrnas Unedig yn cynnig cyfres o chwedlau gwerin Indiaidd oedd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr, gan gynnwys sesiwn ar y cyd gydag Elizabeth Ellis a adroddodd fersiwn Appalachaidd o’r Cap Brwyn.  Rhannodd Charlotte Blake Alston chwedlau o Ghana, gan annog cynulleidfa lawn i ganu mewn harmoni gyda’i gilydd, a hanes wedi ei ymchwilio’n fanwl am y Six Triple Eight, y bataliwn o ferched du yn unig cyntaf i wasanaethu yn Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Y ddau’n eithriadol! Uchafbwynt mawr arall i mi oedd Kevin Kling wych  - diflannodd awr a dreuliwyd yn ei gwmni fel y gwynt, cymaint o ddealltwriaeth a doethineb wedi ei lapio mewn stori a chwerthin. Ar hyd y penwythnos roedd llawer o gyfleoedd i fwynhau’r amrywiaeth o wahoddedigion arbennig yr ŵyl, yn ogystal â slam stori un tro yn unig a chwedleuwyr cyfnewid o wyliau eraill, ac roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod rhai o’r cynulleidfaoedd chwedlau mwyaf cyfeillgar a hael sydd ar gael. Am brofiad.

 

 

Ar ôl hyn teithiais ar y trên i Efrog Newydd ac roeddwn yn ddigon ffodus o gael aros gyda’r chwedleuwraig Laura Simms a roddodd olwg rhywun lleol i mi ar y ddinas. Un noson, fe wnaethom gyfarfod Joseph Sobol am daith i The MothRoedd y slam stori hon oedd wedi gwerthu’r tocynnau i gyd yn siop lyfrau Housing Works, menter gymdeithasol sydd hefyd yn cynnig gofal iechyd a gwasanaethau eiriolaeth. Roedd y seddi’n orlawn, y balconïau’n gwegian, wrth i 10 chwedleuwr a dynnwyd o het rannu storïau 5 munud ar thema ‘Gwisgoedd’. Er bod y dull sgorio yn dal yn enigma llawn cyfrinachau, roedd y noson hon o adloniant wrth fodd y dyrfa ifanc, gosmopolitanaidd - ac fe’m gadawodd i ystyried atyniad profiad dilys sy’n cael ei rannu, yn ein cyfnod o newid a heriau.

Wrth i mi orffen fy nhaith, roeddwn yn falch o gael ychydig o ddealltwriaeth o waith celf yr Americanwyr Cynhenid, yn cael ei arddangos yn y Smithsonian Museum of Native American History history (housed in the Alexander Hamilton Custom House, a call back to earlier in my trip) a The Metropolitan Museum of Art.  Mae gwaith cyfoes ar gomisiwn yn eistedd ochr yn ochr â darnau hanesyddol, ac mae’r haenau o fanylder a chrefft yn rhyfeddol - y ‘jingle dress’, a wnaed yn llwyr o bapur ysgrifennu fel teyrnged i awduron cynhenid, y mae eu henwau wedi eu hysgrifennu ar bob jingle - a gwisg a ddyluniwyd yn defnyddio meddalwedd Adobe, yn efelychu’r wisg hanesyddol yn y cwpwrdd agosaf ati. Mae’r paneli dehongli’n cyfeirio at systemau gwerthoedd lle nad yw amser yn llifo mewn llinell syth, lle mae gwrthrychau a wnaed gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn dal i wneud y gwaith a fwriadwyd gan eu gwneuthurwyr, meini prawf i fyfyrio arnynt, wrth barhau i gefnogi rhannu storïau sy’n cael eu trosglwyddo i’r dyfodol trwy gael eu dweud yn awr. Amser i anelu’n ôl i’r Deyrnas Unedig, gyda diolch i bawb a wnaeth y daith hon yn bosibl, tan tro nesaf.

 

Ariannwyd ymchwil Naomi gan raglen UK Creative Cultural Fellows NAS & Derby Musesums, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a’r Sefydliad Calouste Gulbenkian.

Diolch i Ŵyl Chwedleua Genedlaethol Jonesborough

Gallwch gael mynediad at fersiwn Rithwir Gŵyl Chwedleua Genedlaethol Jonesborough o 28 Hydref yma: https://www.storytellingcenter.net/festival/virtual-festival/

Cefnogir gan

^
Cymraeg