Hoffem gomisiynu chwech o artistiaid ar ddechrau eu gyrfa i gynhyrchu gwaith sy’n cyfeirio at safle Parc Dinefwr yn Llandeilo fel rhan o ŵyl chwedleua Beyond the Border.
Ffi Artist: £800 i gynnwys costau teithio a threuliau
Cyllideb deunyddiau ychwanegol: £200
Mynediad undydd am ddim i Ŵyl Beyond the Border
Dewiswyr:
Naomi Wilds - Gŵyl Chwedleua Beyond the Border
Alison Neighbour – Artist
Kathryn Campbell – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Holly Dwyer – Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cathy Boyce – Gŵyl Chwedleua Beyond the Border
Y comisiwn:
Gwahoddir artistiaid i ymateb i thema gŵyl Beyond the Border sef ‘Ailddychmygu, Ailddeffro” a’r teitl Darnau o Le.
Dinefwr yn ficrocosm o dreftadaeth a byd natur Cymru, yr unig Warchodfa Natur Genedlaethol parcdir yng Nghymru ac mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’n cynnig maes chwarae cyfoethog i’r synhwyrau i artistiaid a chynulleidfaoedd archwilio’r gorffennol, y presennol a chreu dyfodol cyffrous, gyda’i gilydd.
Dylai eich cynnig ystyried sut y gall eich ymyrraeth artistig helpu cynulleidfa Gŵyl Beyond the Border i ystyried natur unigryw a sensitifrwydd y lleoliad ym Mharcdir Dinefwr; i sylwi ar ambell eiliad arbennig yn yr amgylchedd a’u gwerthfawrogi a symud trwy’r safle’n llawn syndod a gofal.
Mae gweithio gyda thirwedd sy’n sensitif yn ecolegol yn creu heriau ac ystyriaethau penodol. Rydym yn chwilio am ddull heb fawr o dechnoleg, ysgafn sy’n dangos ymwybyddiaeth o’r amgylchedd ac yn ymateb i sensitifrwydd statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig y lleoliad ac yn trin hyn fel ysgogiad artistig yn hytrach na chyfyngiad. Mae gwybodaeth ychwanegol am y safle ar gael os bydd angen ac y gofynnir amdano.
Gall y gwaith fod mewn unrhyw gyfrwng gan gynnwys perfformiad, sain a digidol yn ogystal â cherflunwaith, darlun neu gyfryngau eraill. Croesawir ymdeimlad o fyrhoedledd a dylai ystyriaeth i ofynion gweithio ar safle sy’n SoDdGA ac yn gaeau gwyrdd fod yn rhan ganolog o’ch cynnig.
Dylid cynnwys unrhyw offer fydd yn angenrheidiol i chi gyflawni’r gwaith celf neu ei ddangos ar y safle yn eich cyllideb deunyddiau, a rhaid i unrhyw beth sy’n rhan o’ch arddangosiad ar y safle fedru gwrthsefyll y tywydd.
Gall timau’r Ŵyl a’r Safle eich cynorthwyo i’w osod yn briodol.
Bydd y gwaith yn cael ei weld gan gynulleidfaoedd yr ŵyl ar eu taith trwy’r safle, efallai y byddant yn dod yno yn benodol i edrych ar eich gwaith celf, efallai y byddant yn dod ar ei draws ar hap, neu efallai y byddant yn cymryd rhan mewn taith stori sy’n eu harwain heibio iddo. Rydym yn eich gwahodd i ystyried sut y byddech yn hoffi i’r gynulleidfa ddod ar draws eich gwaith.
Rydym wedi dewis nifer o safleoedd posibl a gwahoddir chi i gynnig am un neu fwy o’r mannau sydd yng Nghoed yr Eglwys a Choed y Castell yn Ninefwr. Mae delweddau o’r safleoedd ar gael yma.
Cyflwynwch, os gwelwch yn dda:
Cynnig byr (un ochr A4) yn cynnwys natur y gwaith y byddech yn hoffi ei wneud, a syniad cryno o sut y byddech yn ymateb i’r ysgogiadau a chanllawiau uchod. Nid ydym yn gofyn am y cynnig terfynol yma, yn hytrach rydym yn gofyn am ddealltwriaeth o’ch proses o feddwl a’ch syniadau cychwynnol - rydym yn deall y byddwch am roi ffurf derfynol ar eich cynnig ar ôl cael comisiwn a chael digon o amser ar y safle. Mae croeso i chi ddefnyddio’r gofod A4 i dynnu llun yn hytrach nag ysgrifennu os yw’n well gennych hyn fel dull o fynegi.
Hyd at 4 delwedd neu ddolenni i waith blaenorol perthnasol.
Eich enw a’ch manylion cyswllt
Bywgraffiad/CV byr (uchafswm o 100 gair)
NEU:
Ffeil fideo neu sain* o hyd at 5 munud o hyd yn dweud wrthym am eich ymarfer a’ch profiad a’ch ymateb arfaethedig i’r alwad am gynigion
*mpg/mp3/youtube/vimeo/soundcloud
*mpg/mp3/youtube/vimeo/soundcloud
Anfonwch at: cathyboyce@beyondtheborder.com
Dyddiad Cau: 1 Mehefin
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych wedi bod yn llwyddiannus erbyn : 10 Mehefin
Gosod: wythnos 28 Mehefin 2021
Ymweliadau safle:
1. Yn dilyn cael cadarnhad bod eich cais yn llwyddiannus byddwch yn cael eich gwahodd i ymweld â’r safle cyn datblygu eich gwaith
2. Bydd angen i chi fod ar y safle i osod eich gwaith
3. Bydd gofyn i chi dynnu eich gwaith i lawr a chlirio unrhyw ddeunyddiau ffisegol
Cefnogaeth a mentora:
Bydd mentora a chefnogaeth ar gael i artistiaid a gomisiynwyd a fydd yn cynnwys:
Taith o gwmpas safle Dinefwr
Ymweliadau safle gyda chefnogaeth
Mentora trwy’r broses gomisiynu gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr a’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a gweithio o fewn set benodol o ganllawiau amgylcheddol
Yswiriant: Bydd yn ofynnol i chi ddarparu Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac Indemniad Proffesiynol *
*Mae yswiriant blynyddol ar gael o rwydwaith A-n artists am £38
Cefnogir gan The Ashley Family Foundation