Mae Hwb Chwedleua Myseliwm wedi penodi tri chwedleuwr fel Cyfarwyddion Cyfoes a dau gynhyrchydd fel rhan o’i raglen gydweithredu newydd trwy Gymru gyfan rhwng gweithwyr llawrydd a sefydliadau, gyda chefnogaeth cronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Rhwydwaith o bartneriaid sefydliadol a llawrydd, wedi ymrwymo i rannu ymarfer a meithrin chwedlau llai cyffredin o bob rhan o gymunedau amrywiol Cymru yw Hwb Chwedleua Myseliwm. Ysbrydolwyd y model gan rwydweithiau myceliwm natur ac mae’n cynnwys cefnogaeth i gynhyrchwyr a rôl newydd i’n Cyfarwyddion cyfoes.
Bydd Beyond the Border, yr Eisteddfod Genedlaethol, People Speak Up, Menter Iaith a Citrus Arts, ynghyd â chwedleuwyr unigol ac aelodau o’r gymuned, Head4Arts a Theatr Soar, yn gweithio i sicrhau dyfodol y sector chwedleua yng Nghymru.
"“Cawsom gymaint o geisiadau gwych ar gyfer rownd gyntaf ein Hwb Chwedleua Myseliwm, ac roedd yn benderfyniad anodd. Ond mae’r pedair swydd newydd yr ydym yn cyhoeddi eu deiliaid heddiw i gyd yn dwyn rhywbeth rhyfeddol i swyddi’r Cyfarwyddion a’r Cynhyrchydd. Rwyf wrth fy modd y bydd Mair Tomos Ifans yn gweithio yn Gymraeg a gyda rhai cymunedau dwyieithog hefyd. Mae gennym ddwy gynhyrchydd wych yn Rhian Davies a Cathy Boyce - bydd Cathy yn dychwelyd at ei gwreiddiau yn y Cymoedd a bydd Rhian yn creu cyfleoedd ar gyfer rhagor o chwedleua yng Nghanolbarth Cymru. Yn olaf, mae gennym swydd sy’n cael ei rhannu rhwng Jo Munton a Nia Llywelyn, fydd yn gweithio gyda’r dysgwyr trwy Gymru. Rwy’n argyhoeddedig y bydd eu gwaith yn ymatebol, cyffrous, yn fentrus, ac yn fwy na dim yn archwilio beth mae adrodd storïau mewn cymunedau cyfoes yn ei olygu.” Cynhyrchydd Ymgysylltu i Beyond the Border, Tamar Eluned Williams.
Yn Ne Cymru, bydd y chwedleuwyr Nia Llywelyn a Jo Munton yn gweithio ond maent hefyd yn gobeithio gweithio trwy Gymru, gan ddefnyddio’r gelfyddyd i helpu dysgwyr y Gymraeg.
Mae’r cynhyrchydd profiadol, Cathy Boyce, yn angerddol am ddatblygu rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau yn Ne Cymru gyda phwyslais arbennig ar ei phentref ei hun yng Nglyn Nedd, a’r siroedd cyfagos sef Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Merthyr. Mae Cathy yn teimlo’n angerddol bod hwn yn gyfle i fynd â chwedleua yn ôl at ei gwreiddiau a datblygu’r genhedlaeth nesaf o chwedleua.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld sut y bydd Mair, Jo, Nia, Rhian a Cathy yn datblygu’r holl syniadau gwych y gwnaethon nhw eu cyflwyno i’r Hwb Mycelium, ac rydym yn edrych ymlaen at eu cefnogi wrth i’w preswyliad ddatblygu. Mae’n wych cael croesawu’r nifer lawn o ymarferwyr ym mlwyddyn gyntaf yr Hwb, gan gynnwys Phil Okwedy a Deb Winter sy’n Gyfarwyddion Cyswllt gyda People Speak Up yng Ngorllewin Cymru. Rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at gael clywed rhagor am y llu o storïau difyr yr ydym yn gwybod eu bod allan yna yn ein cymunedau wrth i brosiect Mycelium esblygu,” dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Beyond the Border, Naomi Wilds.
Bydd yr aelodau newydd o’r tîm yn dechrau datblygu eu rhaglen o weithgareddau dros yr ychydig fisoedd nesaf. Mae Phil Okwedy a Deb Winter, y Cyfarwyddion Cyswllt gyda People Speak Up eisoes wedi cychwyn eu gweithgareddau yng Ngorllewin Cymru gan weithio ar ddatblygu Storïau dros y Ffôn, Sgwrsio gyda Grŵp Dynion People Speak Up a storïau gyda Chartrefi Gofal, gyda mwy wedi eu cynllunio ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf.