body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

John Titi Namai – Story Train (May)

Mae John Tito Namai yn chwedleuwr a chynhyrchydd sy’n byw yn Nairobi, Kenya. Mae wedi siarad yn ddiweddar yn ein sesiynau CASGLU Rhyngwladolr.

Yn ystod y cyfnod clo fe wnaeth greu rhaglen allestyn o’r enw Story Train. Yn ogystal â rhannu ei brofiadau o’r prosiect, bydd yn siarad yng ngweminar ar-lein nesaf Ysbrydoli yn canolbwyntio ar CHWEDLEUA SIGANA. SIGANA STORYTELLING

Newyddion**** YSBRYDOLI CHWEDLEUA SIGONI gyda JOHN TITI NAMAI

SIGANA STORYTELLING with JOHN TITI NAMAI

Mai 27fed, 6-7.30pm

Ideal for storytellers with a basic level of performing experience

Rhad ac am ddim i fynychu, lleoedd yn gyfyngedig i 15, anfonwch e-bost at tamarwilliams@beyondtheborder.com i sicrhau lle.
*croesewir cyfraniadau i BTB drwy’r ddolen yma Paypal*

Beth yw eich prosiect?

Story Train

Mewn ymateb i argyfwng y pandemig (Covid 19), fe wnes redeg rhaglen allestyn chwedleua “Story Train” i blant gartref yn y cyfnod clo yn Nairobi a’r cylch i wneud iddynt ddysgu sgiliau meddwl creadigol drwy straeon, dawns, symudiad a gemau. Straeon yw pileri craidd y rhaglen.

Sut all pobl gymryd rhan?

Mae’r rhaglen ar gyfer plant 4-16 oed y mae argyfwng y pandemig wedi effeithio ar eu tymhorau ysgol ac felly wedi eu cloi allan heb fawr o gyfleoedd creadigol i rannu enydau doeth chwedleua llafar yn ein cymunedau. Hyd yma rydym wedi medru cyrraedd dros 10 cymuned o fewn yr aneddiadau anffurfiol (slymiau) yn Nairobi a gallodd y rhaglen ymestyn allan i gymunedau wledig.

Mae’r rhaglen ar gyfer plant 4-16 oed y mae argyfwng y pandemig wedi effeithio ar eu tymhorau ysgol ac felly wedi eu cloi allan heb fawr o gyfleoedd creadigol i rannu enydau doeth chwedleua llafar yn ein cymunedau. Hyd yma rydym wedi medru cyrraedd dros 10 cymuned o fewn yr aneddiadau anffurfiol (slymiau) yn Nairobi a gallodd y rhaglen ymestyn allan i gymunedau wledig. Os hoffech gefnogi plant Nairobi mewn da neu’n ariannol i brofi y rhaglen, byddai croeso i chi gyfrannu drwy Paypal:Johntiti24@yahoo.com

Byddai’r arian yn helpu i hwyluso prynu masgiau wyneb, snaciau a chyflenwadau celf ar gyfer y plant sy’n mynychu’r sesiwn.

Dywedwch fwy wrthym amdanoch eich hun

Mae John yn gweithio fel chwedleuwr, cynhyrchydd gŵyl, addysgydd celfyddydol a threfnydd cymunedol

Rwy’n gwneud prosiect Llafaredd Chwedleua gan fod chwedleua yn agwedd bwysig o fy ngrŵp Zamaleo Act er mwyn cadw diwylliant a throsglwyddo straeon i’r genhedlaeth nesaf. Rwyf yn perfformio mewn ysgolion, yn rhannu straeon traddodiadol a chysylltu’r straeon hynny i’r cwricwlwm drwy ganolbwyntio ar sgiliau bywyd craidd, meithrin hyder, dehongliad llafar a siarad cyhoeddus

Rwy’n gwneud prosiect Llafaredd Chwedleua gan fod chwedleua yn agwedd bwysig o fy ngrŵp Zamaleo Act er mwyn cadw diwylliant a throsglwyddo straeon i’r genhedlaeth nesaf. Rwyf yn perfformio mewn ysgolion, yn rhannu straeon traddodiadol a chysylltu’r straeon hynny i’r cwricwlwm drwy ganolbwyntio ar sgiliau bywyd craidd, meithrin hyder, dehongliad llafar a siarad cyhoeddus. Hefyd rwy’n gweithio gyda’r gymuned Somali ifanc, yn eu mentora a’u hannog i feithrin celf chwedleua drwy raglen ‘365 tell a tale’. A bob blwyddyn rwy’n teithio i rannu straeon gwerin o Kenya mewn gwyliau rhyngwladol dramor. Rwy’n helpu i drefnu Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Sigana bob blwyddyn i hyrwyddo crefft chwedleua sydd wedi rhoi llwyfan i chwedleuwyr adnabyddus o bob rhan o’r mynd. Ynghyd â mudiad TICAH (‘’Traditional indigenous culture and heritage’), rwyf wedi bod yn defnyddio chwedleua i ledaenu gwybodaeth yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Kenya a hefyd wedi bod tu ôl i gynhyrchu gŵyl chwedleua Ailddychmygu, sy’n seiliedig ar hen draddodiadau chwedleua Affrica sy’n gynyddol dan fygythiad yn oes y rhyngrwyd a’r ffôn clyfar. Mae’r ŵyl wedi rhoi cipolwg ar rôl bwysig straeon gwerin heddiw fel arf grymus wrth archwilio a beirniadu hanes. Roeddwn hefyd yn cymryd rhan yng nghynhyrchiad Story, story Come! o naratifau sy’n siarad am faterion sy’n sylfaenol i ddatblygiad Affrica mewn ffordd anghonfensiynol ond sy’n cadw traddodiadau chwedleua llafar y gorffennol. Rwy’n cydlynu ac yn arwain gwahanol brosiectau ymchwil ar y cyfandir a thramor. Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn hanesydd arweiniol ar brosiect stori @ 100 Africa ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n anelu i ddweud hanes Affrica i gynulleidfa ar-lein."

https://twitter.com/100_storyafrica/status/1320682456920526848

"Ynn ddiweddar, gan addasu i gyfyngiadau Covid-19, rwyf wedi bod yn brysur yn cynnal ac yn trefnu gwyliau chwedleua a digwyddiadau ar-lein ac oddi ar lein."

https://www.facebook.com/ASSITEJSouthAfrica/videos/864479067394445/

Beth ydych chi wedi bod yn edrych arno ar-lein yn ystod y cyfnod clo? Ydych chi wedi gweld unrhyw beth y credwch y dylai eraill fod yn edrych arno?

Roedd un o’r prosiectau yn ystod dechrau’r Cyfnod Clo.

Eleni daeth grŵp o haneswyr blaenllaw o bob rhan o Affrica ynghyd i ffurfio 100 Story Africa,

prosiect ar y cyd sy’n dweud hanesion eu cymunedau, gwledydd a’r cyfandir.

Nod y prosiect yw dweud y straeon y credant ddylai gael eu dweud, yn hytrach na’r rhai sy’n tueddu i gael eu hadrodd mewn llyfrau gwers sy’n canolbwyntio ar Ewrop, er enghraifft.

Mae ein grŵp yn cynnwys haneswyr a chwedleuwyr sy’n hanu o ac yn gweithio yn Somalia, Kenya, Nigeria, De Affrica, Uganda, a Botswana.

Ein cenhadaeth yw i “hanes Affrica gael ei adrodd gan leisiau Affricanaidd”. Bob dydd caiff yr hanesion hyn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ar Twitter @100_storyafrica. Mae pob neges yn dangos naratif a safbwynt gwahanol a ddewiswyd gan hanesydd.

Rydym yn galw arnoch i gefnogi ein haneswyr a’r prosiect hwn drwy ein dilyn ar Twitter a rhannu manylion y prosiect gyda’ch rhwydwaith. Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn a byddem wrth ein bodd yn trafod y cyfle i gydweithio gyda chi yn y dyfodol.

Cam cyntaf y prosiect yw hwn ond ein bwriad yw ehangu ein rhwydwaith o haneswyr sy’n cyfrannu a’r llwyfannau y dywedwn y straeon arnynt. Byddem yn croesawu eich cefnogaeth.

Dewch o hyd i ni ar Twitter https://twitter.com/100_storyafrica

Cefnogir gan

^
Cymraeg