body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Hydref - Ailsa Mair Hughes -phrosiect Mapio Sain ein 5 Milltir Sgwâr

Ar gyfer Ysbrydoli/Inspire mis Hydref, fe wnaethom ofyn i Ailsa Mair Hughes rannu ei phrosiect ‘Mapio Sain ein 5 Milltir Sgwâr gyda ni. Mae ei phrosiect yn mynd ati i rannu cerddoriaeth a straeon a ysbrydolwyd gan y cyfyngiadau symud 5 milltir yng Nghymru yn ystod COVID19.

Beth yw'r prosiect? 

Caiff ei alw yn ‘Mapio Sain Ein 5 Milltir Sgwâr’ / ‘Soundmapping Our 5 Square Miles’ ac mae’n wahoddiad eitha epig i bobl ledled Cymru i wneud ‘map sain’ torfol o’r lle a alwn yn adre. Mae’n ymgysylltiad creadigol gyda chelf gwrando ar yr hyn sydd yno, a gwrando for am y gwyllt, lle bynng ydych yng Nghymru – hyd yn oed yn y ddinas. Roeddwn yn ddiolchgar tu hwnt i dderbyn arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Ymsefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer hyn yn ystod y cyfnod clo. Cafodd y syniad am y prosiect ei symbylu gan y cyfyngiad 5-milltir oedd gennym yng Nghymru ar ôl i bobl yn Lloegr gael caniatâd i symud ymhellach. Mewn gwirionedd cafodd yr hadau eu plannu flynyddoedd yn ôl yn fy angerdd trosfwaol at gerddoriaeth, chwedleua a seiniau gwyllt.

Drwy gydol y prosiect, rwy’n cydweithio gyda’r naturiaethwr a ffotograffydd bywyd gwyllt Ben Porter, yr artist gweledol Penny Tristram, y gwneuthuryddy ffilm Ashley Leng a’r cerddor/technegydd sain Badger Brown, a hefyd wrth fy modd i fod yn gweithio gyda’r chwedleuwraig Lisa Schneidau fydd yn fy mentora wrth i mi ddechrau dod â fy nghynnig creadigol terfynol at ei gilydd.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Mae ar gyfer unrhyw un a phawb sy’n byw yng Nghymru, trefol neu wledig neu rywle yn y canol!

Gan fynd allan i’n broydd lleol - h.y. o fewn cylch 5 milltir, i wrando a darlunio, ysgrifennu a/neu recordio mewn ymateb i hynny, gall cyfranogwyr anfon eu cyfraniadau ataf i ysbrydoli darn o chwedleua cerddorol y byddaf yn dechrau ei blethu at ei gilydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Mae digonedd o gynghorion da (rwy’n mentro eu galw yn ‘Cyfarwyddiadau’ ond mae hwn yn derm llac!) ar sut i ‘fapio sain’ ar flog y prosiect.

Drwy gydol y prosiect, a ddechreuodd ym mis Awst ac a fydd yn parhau i’r flwyddyn newydd, cafodd gweithdai opsiynol ar-lein eu cynnal gyda mwy ar y gweill sy’n anelu i gysylltu gyda gwahanol agweddau o’n mapio sain - rydym eisoes wedi cael 1) AD Seinwedd Wyllt / Wild Soundscape ID gyda Ben Porter, 2) Rhoi Sain Ar Bapur / Putting Sound on Paper gyda’r artist gweledol, a’r wythnos hon ddydd Iau 1 Hydref byddaf yn cynnal 3) Dod yn Seinwedd Wyllt / Becoming Wild Soundscape gyda’r cerddor ac athrawes llais Bethan Lloyd ar ‘Galw ein Lleisiau Gwyllt’. Caiff recordiad o’r holl weithdai eu rhannu ar fy sianel YouTube cyn gynted ag sy’n bosibl.

Rwyf hefyd yn gwahodd dau chwedleuwr arall i gymryd rhan yn y broses mapio sain a rhannu darn byr o fy ngwaith ar 24 Tachwedd mewn pennod arbennig o fy nghylch chwedleua ar lein ‘Cawl Carreg’ (rhywbeth arall a ddechreuais yn ystod y cyfnod clo). Mae’r galwad hwn ar agor tan 30 Medi – mae gwybodaeth yn fy mlog Nodau Gwyllt ac os ydych eisiau edrych, gallwch ganfod sut i fynychu Cawl Carreg ar fy ngwefan bersonol (mae’r sesiwn nesaf ar 10 Hydref).

Yn ogystal â fy narn terfynol o gerddoriaeth a chwedleua sy’n dod â mapio sain pawb ynghyd, byddaf yn gwneud fy mhodlediad ‘Nodau Gwyllt’ cyntaf ar brosiect Mapio Sain – cadwch eich llygad ar agor.

GWEFAN www.ailsamairsong.com

BLOG: www.wildnotes.earth/blog

FB: WILD NOTES NODAU GWYLLT & Ailsa Mair Arts

YouTube: Ailsa Mair Arts

Instagram: wildnoteswales & moonbowed.earthspun

E-bost: wildnoteswales@icloud.com (os dymunwch, gallwch danysgrifio i restr bostio’r prosiect drwy ysgrifennu ataf yma)

Dywedwch fwy wrthym amdanoch chi'ch hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau adrodd straeon? Ers pryd ydych chi wedi bod yn gwneud hyn? Ble ydych chi wedi'ch lleoli ac ati? Sut ydych chi'n gweithio gyda stori? this? Where are you based etc? How do you work with story?

Rwy’n byw ym Machynlleth ar hyn o bryd. Rwy’n gerddor gwyllt (yn bennaf cantores a chanu’r soddgrwth) a gafodd hyfforddiant clasurol, ac yn dal yn bendant iawn yn dal i ddatblygu fel chwedleuwraig, er y bûm yn cyfeilio chwedleuwyr eraill am dros ddegawd felly’n teimlo’n bendant iawn yn rhan o’r byd hwn! Dechreuais fy nhaith drwy’r brwyn i barth chwedlau pan gefais wahoddiad i weithio gyda Milly Jackdaw, ac ers hynny rwyf wedi cydweithio gyda mwy o chwedleuwyr nag sydd gennyf o fysedd ar fy nwylo … Mae’r rhai y bûm yn cydweithio gyda nhw am gyfnod maith yn cynnwys y chwedleuwr, darlunydd ac awdur Peter Stevenson, a Whispering Woods, cwmni syrcas awyrol a theithiais goedwigoedd gyda nhw am nifer o flynyddoedd, yn plethu straeon, acrobateg a cherddoriaeth yn y cod.

Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y gwnes ddechrau ‘dweud straeon’ go iawn. Cefais fy annog i ddechrau mewn gweithdy unigol yng ngŵyl Unearthed gyda’r chwedlewr Tom Hirons, lle cawsom ein herio i ddweud stori gyfarwydd iawn, yn dechrau gyda dim ond ei hesgyrn. Yn fuan wedyn, ar ôl i mi berfformio mewn grŵp anffurfiol yn Aberystwyth (yr un cyntaf fy fersiwn o stori Inuit Menyw Sgerbyd). Wedi fy ysgogi yn ystod fy nghais am Wobr Esyllt y flwyddyn honno, symudais ymlaen i ddatblygu darn dwyieithog 20 munud gyda’r enw Lleuad Las / Las's Moon (am ferch sy’n cael caneuon gan y môr ac yn eu cadw mewn poteli gwydr a adewir ar y traeth), yn cynnwys interliwdiau soddgrwth a chân – a’i pherfformio y llynedd yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth yn olion castell y dref ac yna ei datblygu ar gyfer Gŵyl Chwedleuwyr Ifanc Cymru. Skeleton Woman). Motivated during my application for the Gwobr Esyllt that year, I moved onwards to develop a 20 minute bilingual piece of my own called Lleuad Las / Las’s Moon (about a girl who is gifted songs by the sea and stores them in glass bottles left on the beach), incorporating underscored cello and song interludes – as performed last year at the Aberystwyth Storytelling Festival in the grounds of Aberystwyth castle ruins, and then developed for the Young Storytellers’ Festival of Wales.

Yn aml, efallai’n naturiol, daw stori o gerddoriaeth i fi, ond efallai tu hwnt i hyn, mae’n dechrau gyda gwrando - ar ysbryd y tir o fy nghwmpas, ac ar yr hyn sy’n cyffwrdd fy nghalon pan glywaf straeon gan bobl eraill. Byddwn yn ystyried bod rhai o’r caneuon a ysgrifennais yn straeon iddynt eu hunain - a chaf fy nenu i ddweud straeon sydd â themâu cerddorol cryf, fel caneuon sy’n dal yr allwedd i drawsnewid. Fel amgylcheddwraig, mae straeon sydd â’u gwreiddiau yn y tirlun, sy’n rhannu pwysigrwydd cysylltu’n dda gyda’r ddaear, yn wirioneddol taro tant gyda fi. Mae cysylltiad gyda lle - a meithrin ymdeimlad o berthyn yn wirioneddol bwysig i fi mewn stori, ac yn rhywbeth rwyf eisiau ymchwilio mwy a mwy arno wrth ddatblygu fel chwedleuwraig.

Ysbrydoliaeth Cyfnod Clo: beth yw rhywbeth rydych chi wedi'i weld ar-lein rydych chi am ei rannu? e.e. fideo / podlediad / digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli ar yr adeg hon?

Roedd cynifer o bethau ... ond fe wnaeth Peter Stevenson wirioneddol fy ysbrydoli gyda ei ‘stori y dydd’ a gyhoeddwyd ar Facebook gyda’i luniau ei hun. Roedd hyn yn teimlo fel cynnig mor hyfryd yn nyddiau tywyll yr haf – ac yn hollol wych a thoreithiog. Rwy’n credu iddo rannu dros 50 stori!

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg