body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Uchafbwyntiau i’w Darganfod yn Ninefwr

Gyda dros 65 o artistiaid a chwedleuwyr yn cyflwyno a rhannu chwedlau a storïau ar lwyfannau, mewn caeau, mewn cestyll, yn ogystal â lleoliadau i ymgolli ynddynt o gwmpas ein lleoliad rhyfeddol newydd mae’n eithaf anodd i ni ddewis un peth y bydd yn rhaid i chi ei weld yn yr ŵyl. Rydym hefyd yn gwybod bod gan bawb chwaeth gwahanol, felly dyma i chi ddim ond ychydig o Uchafbwyntiau BtB ar gyfer 2021.

Citrus Village a Theatr Byd Bychan

Beyond The BorderEleni rydym wedi trosglwyddo’r ardal greadigol i deuluoedd i’n ffrindiau yn Citrus Arts. Cwmni theatr proffesiynol a chymunedol yw Citrus Arts sy’n teithio i wyliau ar draws y Deyrnas Unedig. Maent yn angerddol am rannu eu gwybodaeth a’u sgiliau yn eu cymuned yn ogystal â pherfformio.

Eleni bydd y Citrus Village yn gartref i wneud llusernau a gweithdai syrcas yn ogystal â fersiwn wedi ei haddasu o’u perfformiad ar gyfer gwyliau, Savage Hart.

Yn ymddangos yn gyson yn y Citrus Village bydd y Theatr Hand to Mouth gwych a storïau gan deuluoedd ac oedolion wedi eu hamgylchynu gan goetir hardd Dinefwr.

 

Stars and their Consolations (Premiere Byd: Storytelling Adventure Commission)
Dydd Gwener 8pm – The Big Top (dan do)
Dydd Sadwrn 10pm – Yn yr awyr agored (gyda chlustffonau)

Dychmygwch wrando ar storïau fydd yn cael eu dweud yn ystod y nos, tra byddwch yn syllu ar y sêr... trwy glustffonau!
Mae Stars and their Consolations yn cyfleu’r chwedlau Groegaidd am rai o’r clystyrau sêr amlycaf yn awyr y nos. Mae Hugh Lupton a Daniel Morden yn enwog am eu ffordd fywiog ac angerddol o ailadrodd chwedlau Ovid a Homer. Yn gefndir i’w perfformiad mae sain unigryw a llawn awyrgylch a grëwyd gan y cyfansoddwr o Gymru, Sarah Lianne Lewis. Yn llawn enaid, emosiwn a dwyster mae Stars and their Consolations yn gyfuniad ysbrydoledig o’r hynafol a’r modern.
Rhybudd: mae’r rhaglen hon yn cynnwys delweddau o drais rhywiol.
16+

Rhybudd: mae’r rhaglen hon yn cynnwys delweddau o drais rhywiol.

Eleni mae gennym lwythi o deithiau stori sy’n eich arwain trwy diriogaeth ddirgel Dinefwr. Rhai am y coed, y coetir hynafol a’r chwedlau sy’n eu hamgylchynu.

Mae gennym deithiau hefyd y mae hanes pobl a’r amgylchedd wedi dylanwadu arnyn nhw a fydd yn eich arwain ar anturiaeth i rannau o Ddinefwr i’w Darganfod. Mae gennym storïau o Ganada hyd yn oed wedi eu gosod yn ein gŵyl. Rhestrir ein holl Deithiau Stori yn yr amserlen, gyda dwy daith gerdded arbennig yn cael eu hamlygu ar Fap yr Ŵyl i chi eu mwynhau. Canada nested in our festival. All our Story walks are listed in the schedule, with two special walks highlighted on our Festival Map for you to enjoy.

 

Cymrwch ran
Yn ystod y penwythnos bydd gweithdai i bob oed gymryd rhan ac archwilio syniadau a sgiliau newydd - syrcas, gwneud llusernau, cofnodi sain a gwneud crancis. Y bydd rhai ohonynt hefyd yn cael eu defnyddio fel rhan o’r Seremoni Gloi!

Llyn y Fan Fach
Dydd Sul 5pm – Y Castell
Mae’r chwedleuwr Michael Harvey, y ddawnswraig Eeva-Marie Mutka a’r cerddor Stacey Blythe wedi creu perfformiad newydd dwyieithog yn seiliedig ar y chwedl o Sir Gaerfyrddin, Morwyn y Llyn. Cyfunir symud, chwedl a cherddoriaeth i greu profiad chwedlonol ar ben y castell.

 

Arbrofion Chwedleua
Byddwch y cyntaf i fod yn rhan o berfformiad newydd gan chwedleuwyr blaengar, arbrofol. Bydd Tim Ralphs yn trosglwyddo’r Brenin Arthur i’r dyfodol, ar sgrin awyr agored ac ar-lein; a bydd Tamar Eluned Williams gyda’i chwaer Morwen Williams yn ymchwilio i ran menywod mewn caneuon gwerin yn Not Maid, Nor Widow, Nor Wife.

 

 

Cyfeiriadau Newydd
Sy’n rhoi sylw i chwedleuwyr sy’n rhannu darn cyfan am y tro cyntaf yn BtB, gwrandwch ar gynigion newydd gan Saul Jaffe, Phil Okwedy a Sarah Lisa Wilkinson.

 

 

 

 

 

Storïau o Ganada
Yn 2020 roeddem wedi trefnu i rai o’r lleisiau rhyngwladol mwyaf cyffrous fod yn rhan o’r rhaglen. Roeddem yn ymroddedig i’w cludo yma, yn y ffordd orau posibl o ystyried y cyfyngiadau COVID yn 2021.

Rydym wedi cydweithio gyda Festival Interculturel du conte de Montréal yng Nghanada i greu ffyrdd digidol o rannu storïau gan Ivan Coyote yn eu Caban yn y rhan fwyaf pellennig o’r Yukon; Tamar Illana yn rhannu storïau plentyndod a cherddoriaeth ar sgrin awyr agored, ac mae Marta Singh wedi recordio seiniau o Ganada i’w clywed yn ein tirwedd newydd trwy gydol yr ŵyl.

 

 

Mamiaith
Sesiwn 1 awr yn y Family Tent ddydd Sul yn cynnwys Michael Harvey (MC), Stacey Blythe, Rajesh David, Tamar, Chandrika, Ceri Phillips, Sef Townsend a Shona Cowie.

Gan chwilio am gynulleidfaoedd nad ydynt yn gyfarwydd â’r Gymraeg, Gujarati, Sanskrit, Iddeweg, Iseldireg, Sbaeneg, Bengali, Hindi a Phortwgeeg. Gwahoddiad i fwynhau’r cyfoeth o storïau yn cael eu dweud yn eu mamieithoedd, lle mae peidio â deall yn rhan o’r hwyl!

Ac os byddwch yn colli rhywbeth...edrychwch ar ein Gŵyl Ar-lein sy’n rhedeg hyd 10 Gorffennaf gan ein bod yn rhannu mwy o storïau yno, rhai ohonynt yn yr ŵyl fyw.

Cefnogir gan

^
Cymraeg