body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Pyn Stockman – Tell It To The Bees (April)

Beth yw’r prosiect?

Perfformiad a phrosiect yw Tell It To The Bees sy’n archwilio colled, galar a chofio. Fe’i hysbrydolwyd gan y traddodiad gwerinol o adrodd wrth gwch gwenyn am farwolaeth neu ddigwyddiad o bwys yn eich bywyd. Mae’r perfformiad yn cyfuno stori, cerddoriaeth a Gosodwaith Cwch Gwenyn o Atgofion gyda gwahoddiad i’r gynulleidfa ddathlu atgof am rywun.

Mae’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda digwyddiadau rhithiol sy’n cael eu trefnu ar gyfer Wythnos Byw Nawr (10-16 Mai 2021) Bydd hwn yn rhoi blas o’r darn cyflawn y bwriadwn fynd ag o ar daith fyw yn yr Hydref 2021 neu phryd bynnag y bydd hi’n bosib gwneud hynny.

Mae Tell It To The Bees yn estyniad o’m gwaith efo Wythnos Ymwybyddiaeth Byw Nawr (https://www.dyingmatters.org/AwarenessWeek) a gychwynnodd yn 2018 fis ar ôl i’m Mam farw pan gefais wahoddiad i adrodd straeon yn Death Over Dinner i BrumYODO. Rydw i wedi cyflwyno gwaith yn ystod pob Wythnos Byw Nawr ers hynny a bachais y syniad Tell It To The Bees yn ystod Pilot Night (Birmingham REP yn Chwefror 2020)

Rwy’n ddiolchgar am y nawdd gan ACE Project Grants a’r Loteri Genedlaethol, Cyngor Dinas Birmingham ac Active Arts Erdington er mwyn datblygu’r prosiect hwn ac rwyf yng nghanol criw o unigolion a chydweithredwyr gwych.
Titania Krimpas (Cyfarwyddwr) Kate Luxmoore (Cerddor a Chyfansoddwr) Marc Reck (dylunydd sain) Michael Harvey (Mentor, Prociwr) Gilly Adams (Dead Good Guides – cynllunydd seremonïau creadigol) Hipkiss a Graney (Artistiaid Gweledol Gosodwaith Atgofion Cwch Gwenyn) Claire Cotterill (dylunydd a datblygydd delwedd) Kay Wilton (gwisgoedd) Mandy Ross (cyd-gyfarwyddwrartistig Secret City Arts) Synthia Oenga (cynorthwy-ydd gweithdy a swyddog creadigol ar ddechrau gyrfa) Dr Hannah MacDowall (datblygu cynulleidfa, Prociwra gwenynwr) Naomi Wilds (Prociwr)

Ac i Stiwdio Secret Arts Space yn Erdington am y gofod, cymorth technegol a llawer iawn mwy!

Sut all pobl gymryd rhan?

Mae gweithio gyda chymunedau mewn modd cyd-greadigol yn rhan fawr o’r hyn rwy’n ei wneud. Bûm yn gweithio’n agos gyda phartneriaid llyfrgell a chymuned gwych yn Burton Upon Trent, Stoke on Trent, Swydd Warwick a Birmingham.

Cynhaliwyd gweithdai llunio straeon rhithwir, rhai ar gyfer grwpiau penodol (a chyfranogwyr yn rhoi cynnig ar adrodd straeon a zoom am y tro cyntaf) ynghyd â sesiynau agored gyda phobl o bob cwr o’r wlad a’r byd! Gyda’n gilydd rydym wedi datblygu agweddau ar stori o’r enw “The Bee Charmer” a ysbrydolwyd gan hanesyn traddodiadol a llen gwerin am wenyn. Bydd The Bee Charmer yn cael ei recordio fel darn sain gyda nifer o leisiau.

Mae digon o amser i ddod yn rhan o’r prosiect, a byddwn wrth fy modd pe baech yn gwneud hynny.
Ar hyn o bryd:
Gallwch wrando ar agoriad The Bee Charmer a dychmygu fersiwn o’r cymeriad ac i ba gyfeiriad y gallai’r stori fynd nesaf.
Gallwch ymateb i’r ddalen prompt creadigol sy’n cydfynd ag o a rhannu atgof a ysbrydolwyd gan natur. Os wnewch chi hynny, fe wnaf ei ychwanegu at y Cwch Gwenyn Atgofion.

Cyn bo hir:
Archebwch docyn ar gyfer digwyddiad rhithwir “Tell It To The Bees” Wythnos Byw Nawr (10-16 Mai 2021) Bydd hyn yn cynnwys mynediad at recordiad sain o “The Bee Charmer” a ffyrdd o rannu atgof cyn y perfformiad.
Cysylltwch: pynstockman@gmail.com - anfonaf ddolenni cyswllt a rhoi gwybod i chi pryd fydd tocynnau ar gael. Efallai yr hoffech ddilyn blog y prosiect, sef www.pynstockman.com

Dywedwch ychydig mwy wrthym amdanoch chi. Dywedwch fwy amdanoch eich hun mewn bywgraffiad bach. Sut wnaethoch chi ddechrau adrodd straeon? Ers pryd fuoch chi wrthi? O ble rydych yn dod? Sut fyddwch chi’n gweithio gyda stori?e about you? Tell us more about yourself in a short biog.How did you start storytelling? How long have you been doing this? Where are you based etc? How do you work with story?

Rwy’n byw ar gwch ar y Grand Union Canal yng ngorllewin Canolbarth Lloegr. Rwy’n perfformio straeon ac hefyd yn gweithio gyda straeon ar ffurf celfyddyd gymhwysol. Rwyf wrth fy modd. Rwy’n gyd-gyfarwyddwr artistig Secret City Arts ble rwy’n gweithio gyda stori i ymgysylltu gyda chymunedau ac archwilio’r mannau gwyrdd dirgel o fewn tirweddau trefol.
Mae gen igefndir mewn drama a’r theatr ac unwaith ymhell bell yn ôl hyfforddais fel gwneuthurydd mygydau. Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd yn gwrando ar straeon. Byddai fy nhad yn adrodd straeon wrthyf am “yr hen ddyddiau”

 

Roedd gen i dâp o straeon tylwyth teg ganddo fo a Mam a thapiau eraill ohonof fi’n adrodd straeon. Rwy’n credu mai’r profiadau hyn yw un o’r rhesymau rwy’n hoffi gweithio efo grwpiau i recordio straeon.

Cafodd fy ngwaith gyda deunydd traddodiadol a mynd ar ei ôl ar fel ffurf gelfyddyd gymhwysol ei sbarduno gan brosiect gydag Ysgol Coventry drwy adran addysg Canolfan Gelfyddyd Warwick. Roeddwn yn breswyl mewn ysgol un diwrnod o’r wythnos am flwyddyn yn arwain sesiynau adrodd straeon ar draws CA1 yn adrodd ac ailwampio deunydd traddodiadol. Cefais fy hudo ganddo. Roeddwn i eisiau mwy. Ac roeddwn i am berfformio. Rydw i wedi cynnal cyrsiau gyda Ben Haggarty, Nell Phoenix a Michael Harvey; ac mae pob un ohonynt yn rhyfeddol. Os cewch gyfle, ewch i ddysgu gan y bobl hyn.
Aeth 10 mlynedd heibio ers y cyfnod preswyl adrodd straeon hwnnw mewn ysgol ac rwyf wedi mwynhau pob cam o’r ffordd rhwng y fan honno ac yma.

Beth ydych chi wedi bod yn edrych arno ar-lein yn ystod y cyfnod clo? Ydych chi wedi gweld unrhyw beth y credwch y dylai eraill fod yn edrych arno?

 

Rwbio dwylo efo’i gilydd mewn llawenydd. Dyma rhai uchafbwyntiau:
Rwbio dwylo efo’i gilydd mewn llawenydd. Dyma rhai uchafbwyntiau: The Encounter gan Simon Mcburney https://www.thespace.org/resource/encounter-case-study-live-streaming-theatre

https://www.thespace.org/resource/encounter-case-study-live-streaming-theatre

Yr ystod eang o ddigwyddiadau adrodd straeon ar-lein a nosweithiau Zoom ledled y wlad a’r byd. Er bod gormod i’w rhestru i gyd, fe wnes i wir fwynhau Word Spun Events Hannah Brailsford – gwerth galw heibio’n bendant. Maent yn cynnwys amrywiaeth o chwedleuwyr ac yn creu awyrgylch groesawgar a hamddenol.
A StoryVibes (hysbys digywilydd gan fy mod yn cyflwyno hwn ar y cyd gyda Sharon Carr) sydd newydd ei ail-lansio gennym ar-lein efo Story Scratch, noson byrfyfyr ar gyfer storïwyr. Roedd yr ansawdd a’r risgiau a gymerwyd gan y perfformwyr yn ystod ein digwyddiad cyntaf yn wych.
Erdington Arts Evening of Creativity, sef rhaglen o safon gan Erdington Creatives sy’n cael ei ffrydio’n fyw unwaith y mis ar Facebook.
Casglu a gyflwynir yn gelfydd gan Tamar Williams.
Artists Standing Strong Together (ASST). Digwyddiadau gwych. Amrywiaeth cyfoethog o leisiau sydd â lle arbennig yn fy nghalon gan i’r anhygoel Sheila Arnold fy ngwahodd i adrodd ymhell bell yn ôl Ebrill diwethaf pan nad oeddwn i hyd yn oed yn siŵr iawn beth oedd Zoom …
Gormod o bodlediadau i’w rhestru felly rydw i am ddewis un sef Bluirini Bealoidis / Folklore Fragments.
Darlithoedd Cymdeithas Last Tuesday.
ac i gloi, llyfrau llafar. Deuthum ar draws Borrow Box (y cwbl sydd ei angen arnoch yw cerdyn llyfrgell a ffordd o wrando) rwy’n defnyddio fy ffôn. Fy hoff un ar hyn o bryd yw Mrs Death Misses Death a ysgrifennwyd ac a ddarllenir gan Selena Godden. Mae’n gweithio’n wych.
Pob hwyl ar y gwrando, y gwylio a’r cymryd rhan.

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg