body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Medi - Fiona Collins Chwedlau Cyfnod Clo

Beth yw'r prosiect?

Pan ddechreuodd cyfnod y clo, ges i fy ngofyn i helpu yn nghartref gofal lleol. Ers hynny, dwi’n mynd dairwaith yr wythnos ac yn mwynhau’n llwyr, er doedd gen i ddim profiad o’r blaen efo bobl hŷn. Serch hynny, gan mod i’n 67, tybed fod gennyn ni ddigon yn gyffredin i mi fod o iws, gobeithio!

Roedd gan y cartref raglen bywiog o ioga, trin gwallt a cherddoriaeth cyn y clo. Does gen i ddim sgiliau siswrnol, corfforol neu gerddorol. Ond mae gen i’r hen arfer o siarad a gwrando, ac felly dechreuais adrodd chwedlau ac hel straeon gyda’r preswylwyr.

Daw llyfr o’r prosiect, o’r teitl ‘Lockdown Legends’, y bydd yn cynnwys atgofion, hen ffotos o gasgliadau’r cyfranwyr, a darluniadau gan yr arlunwr Peter Stevenson i ddod â’r straeon yn ôl yn fyw ar y dudalen. Cyflwynir y llyfr i’r cyfranwyr a’u teuluoedd. Bydd yn atgof o’r cyfnod rhyfedd hwn a sut derbynion nhw’r her o wneud y gorau ohona hi.

Mae’r prosiect wedi fy sbarduno i wneud gwaith tebyg arlein i hel atgofion bobl hŷn ledled Cymru, rhai sy’n byw yn annibynol a rhai mewn cartrefi gofal. Cafodd y proseict arlein, Lockdown Legends Online, ei ariannu gan Lenyddiaeth Cymru. Bydd deg stori unigryw i’w mwynhau ar wefan Llenyddiaeth Cymru cyn bo hir.

I bwy yw e a sut gall bobl gymryd rhan ynddo?

Dyma brosiect sy’n estyn dros genedlaethau, yn cynnig parch tuag at bobl hŷn, a dealltwriaeth gwell o safbwynt pobl eraill.

Creu cysylltiadau, rhwng y rhai sydd yn cyfrannu a’u perthnasau a chyfeillion, oedd pwrpas Lockdown Legends a Lockdown Legends Online, yn hytrach nag estyn gwybodaeth i gynulleidfa ehangach.

Dyma gynllun syml a gwerthfawr, yn hawdd i’i ail-wneud ar gyfer rhywun gyda diddordeb mewn atgofion teuluol, neu sydd eisiau deall y gorffennol diweddar yn well.

Os hoffech ymgymryd â phrosiect tebyg, naill ai wyneb yn wyneb, neu dros y ffôn neu’r rhyngrwyd, agorwch y sgwrs gyda chwestiynau dilys ac hawdd eu hateb - cwestiynau agored sydd yn hybu atebion estynedig. Wnes i egluro mai bob pwnc oedd dewis y siaradwr, nid finnau, a cheisiais dweud cyn lleied â phosib.

Roedd fy modd o weithio yn syml - wnes i sgriblan nodiadau wrth wrando, a theipiais fy nodiadau cyn gynted â phosib wedyn, tra bod gen i atgof eitha da o’r sgwrs. Roedd tua 45 munud yn amser delfrydol, heb flino fy nghyfranwyr yn lân (roeddent rhwng 72 a 99 oed, felly roedd rhaid bod yn ymwybodol o eu hangenion). Roedd pawb yn awyddus i siarad, a roeddent yn mwynhau’r cyfle i siarad am eu bywydau i wrandawr gyda diddordeb yn eu straeon.

Os hoffech wneud brosiect tebyg baswn yn falch eich cefnogi chi, neu rannu mwy am fy mhrofiadau. Croeso i chi gysylltu â fi! Rydwi’n credu yn llwyr y byddai budd mawr yn y math yma o gyfnewid.

Dywedwch fwy wrthym amdanoch chi'ch hun mewn bywgraffiad byr. Sut wnaethoch chi ddechrau adrodd straeon? Ers pryd ydych chi wedi bod yn gwneud hyn? Ble ydych chi wedi'ch lleoli ac ati? Sut ydych chi'n gweithio gyda stori?

Doedd chwedleua ddim yn rhan o fy magu. Chwedleuwr yr adfywiad ydw i.

Yn y 80au ro’n i’n dysgu yn Llundain, tra ar y cyd yn perfformio, yn byrfyrfyrio straeon yn fyw. Dechreuais fynychu gweithdai stori Mary Medlicott a Karen Tovell, fy mentorau cyntaf.

Yn 1989, mynychais Ŵyl Ryngwladol Chwedleua yn Lundain.

Meddyliais: ‘Pam ydw i’n creu straeon ar fy mhen fy hun, pan mae cymaint o chwedlau’n bodoli, wedi’u siapio gan filoedd o leisiau?’

Ers hynny, rydw i’n yn canolbwyntio ar chwedlau traddodiadol.

Rydw i wedi gweithio fel chwedleuwr ers 1993, ar wahan i flwyddyn ac hanner fel Warden Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, pan symudais i Gymru yn 2001.

Rhaid dweud, ar ôl sbel heb chwedleua, ro’n i’n isel iawn fy meddwl. Mae’n amlwg nid ‘joben’ yw chwedleua i mi, ond galwedigaeth. Felly, des i yn ôl i chwedleua.

Rydw i’n rhannu chwedlau yn hytrach nag eu perfformio, a rydw i’n ystyried fy hun fel Chwedleuwr cymunedol.

Rydw i’n canolbwyntio ar fentro chwedleuwyr ifainc, a chwedleua yn y Gymraeg.

Rydw i eitha rhugl fy Nghymraeg ..… diolch i bobl di-ri. Yn 2019 ennillais Dysgwyr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ymwelais â dosbarthiadau ledled Cymru i annog diwtoriaid i chwedleua, er mwyn hybu dealltwriaeth a hyder dysgwyr.

Wnes i greu Cylch Stori yn Venue Cymru er mwyn i blant fwynhau ‘chwarae’ gyda chwedlau. Mae’r Cylch yn cynnig hyfforddiant hefyd i storiwyr ifainc, sy’n gweithio fel cyd-arweinwyr, gyda chwedleuwr profiadol sydd yn arwain. Erbyn hyn, mae Gilly Brownson a Siân Miriam yn arwain Cylch Stori. Gweld Cylchoedd Stori ledled Cymru yw fy mreuddwyd

Ysbrydoliaeth Cyfnod Clo: beth yw rhywbeth rydych chi wedi'i weld ar-lein rydych chi am ei rannu? e.e. fideo / podlediad / digwyddiad ar-lein sydd wedi eich ysbrydoli ar yr adeg hon?

Dyma araith o 2019 gan Ken Robinson, y bu farw yn ystod Mis Awst eleni. Roedd o’n berson allweddol yn addysg Brydain yn y 1980au, pan ro’n i’n athrawes, er mae’n amlwg yr aeth i fyw yn LA (tybed oherwydd doedd llywodraeth San Steffan, adeg honno fel rŵan, ddim yn deall pwysigwrydd creadigrwydd.)

Teitl ei sgwrs yw ‘Dod o hyd i dy elfen’, ac mae o’n trafod sut i adnabod beth ydych chi’n ei garu a sut ei wneud. Fel chwedleuwr, mae gen i’r fraint o wneud yn union hynny, a dyma arweiniad ysgafn ond sylwgar y gall helpu’r rheiny sydd heb ddod o hyd i’w talent, pe bynnag y bo. Rydwi ’n ddiolchgar i Ben Haggarty am ebostio’r ddolen hon, ar y cyd a newyddion marwolaeth Ken Robinson, ar grwp trafod arlein yr ydan ni’r ddau yn perthyn iddo fo.

 

A dyma fy hoff gân ar hyn o bryd, Cân y Clo, wedi’i chreu gan bedair o gerddorion gwerin gorau Cymru - merched i gyd - ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yr oedd arlein. Yn fy mharn i, mae’n ingol dros ben.

Rydw i’n hiraethu rŵan am glywed y chwedlau sydd yn cofnodi ein profiadau o’r clo, fel mae’r gân hon yn ei gwneud.

Cefnogir gan

^
Cymraeg