body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cynhyrchydd - Jafar Iqbal

Mae Jafar yn weithiwr creadigol o gefndir De Asia, sy’n gweithio o Gaerdydd, gan weithio yn y theatr yn bennaf. Bu ganddo nifer o swyddi dros bron i ddau ddegawd yn y sector celfyddydol, ac mae wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd am y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar roedd yn Gynhyrchydd Cyfranogiad ar GALWAD, y digwyddiad traws-gyfryngol epig a wnaed gyda National Theatre Wales a Sky Arts. Mae hefyd yn sylfaenydd Scene/Change, y cynllun ysgrifennu dramâu cyntaf erioed ar gyfer artistiaid o Gymru sydd â threftadaeth De Asia. Fel gohebydd celfyddydol, mae Jafar wedi sôn yn angerddol am broblemau systematig yn y sector; ac fe sylfaenodd a chyflwyno’r podlediad Critically Speaking, lle’r oedd yn siarad gyda chwech o’r arweinwyr celfyddydol mwyaf yng Nghymru am hiliaeth systematig a braint pobl wyn yn eu sefydliadau. Roedd Jafar yn rhan o raglen Bridge the Gap Stage One i gynhyrchwyr masnachol newydd o gymunedau lleiafrifol, a derbyniodd Fwrsariaeth Stage One yn 2022.

“Mae cael y cyfle i gynhyrchu gwaith gyda chwedleuwr cyffrous o’r Mwyafrif Byd-eang yn fraint anferth, ac alla'i ddim aros am gael cychwyn arni. Rwy’n deall pwysigrwydd y swyddogaeth, ac mae’n parhau fy ymrwymiad i weithio gyda chymunedau sydd wedi eu hallgau yn hanesyddol a rhoi llwyfan i’w storïau gael eu dweud. Rwy’n edrych ymlaen at yr effaith y bydd y swydd hon yn ei gael wrth greu Cymru wrth-hiliaeth.” Jafar Iqbal

 

Back

Cefnogir gan

^
Cymraeg