body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Tri chwedleuwr newydd o Gymru i dderbyn cefnogaeth drwy Raglen Mentora Lleisiau Newydd Beyond the Border

Caiff tri chwedleuwr newydd o Gymru eu cefnogi i ddatblygu eu crefft drwy Raglen Mentora Lleisiau Newydd Beyond the Border.

Cyhoeddodd Beyond the Border – Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru y rhaglen fentora newydd ym mis Gorffennaf, gyda gwahoddiad i artistiaid newydd wneud cais. Mae Beyond the Border yn cyfateb y rhai a fentorir gyda chwedleuwyr sydd wedi ennill eu plwyf yng Nghymru, gan roi bwrsariaeth fach a chanllawiau clir a chyfleoedd datblygu ar draws y flwyddyn nesaf. O faes cryf iawn o ymgeiswyr, y tri chwedleuwr newydd a ddewiswyd yw Ceri Phillips, Chandrika Joshi a Kestrel Morton.

Mae Ceri Phillips yn byw yn Llandeilo ac yn chwedleua drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yn datblygu ei dechnegau chwedleua, proffesiynoli ei waith a hefyd yn gweithio ar ddarn newydd. Stori’r Gerddyn ymchwilio naratifau barddoniaeth Gymraeg, fel rhan o’r rhaglen Lleisiau Newydd.

Chandrika Joshi yn byw yng Nghaerdydd. Bu’n chwedleua am flynyddoedd lawer fel rhan o Gylch Chwedleua Caerdydd. Mae ganddi raglen eang a chyffrous o straeon o India a bydd yn datblygu sioe hir fel rhan o’r rhaglen.

Kestrel Morton yn byw ym Mro Morgannwg ac yn gweithio gyda mythau a chwedlau i lunio naritafau cyfoes gyda themâu gwleidyddol a chymdeithasol, yn aml yn ymchwilio newid hinsawdd a chydraddoldeb y rhywiau. Bydd yn gweithio ar berfformiad chwedleua ffurf hir The Epic of Binderella yn ogystal â datblygu technegau chwedleua ac yn edrych ar opsiynau ar gyfer datblygu proffesiynol. The Epic of Binderella, as well as developing storytelling techniques and looking at options for professional development.

Dywedodd Tamar Eluned Williams, Cydlynydd Ymgysylltu Beyond the Border,“Mae’r tri chwedleuwr yma ar ddechrau eu gyrfa a rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn datblygu eu crefft. Roeddem yn wirioneddol falch gyda nifer y ceisiadau a gawsom ar gyfer y rhaglen mentora gan adlewyrchu’r angen i bobl sydd eisiau datblygu eu sgiliau ar hyn o bryd. Roedd safon y ceisiadau yn anhygoel o uchel a gwyddom fod llawer mwy o artistiaid angen cefnogaeth. Gobeithio y gallwn eu cefnogi drwy gyfleoedd eraill drwy y flwyddyn nesaf. Mae lefel y diddordeb yn y rhaglen wedi ein gwneud i gyd yn gyffrous iawn am botensial chwedleua yng Nghymru a’r genhedlaeth newydd o leisiau sy’n dod trwodd.”

Yn ogystal â chefnogi y tri chwedleuwr dros y 12 mis nesaf, bydd Beyond the Border yn parhau eu gofodau coffi a chlonc CASGLU ar gyfer chwedleuwyr sefydledig a newydd i annog trafodaeth drwyadl, ymchwilio a rhwydweithio yn y gymuned chwedleua. Cynhelir y sesiynau wythnosol hyn ar ddydd Gwener gyda’r sesiwn nesaf ddydd Gwener 28fed Awst yn ymchwilio Chwedleua ac Iaith. Mae’r sesiynau sydd ar y gweill yn cynnwys rôl chwedleua wrth wynebu’r argyfwng hinsawdd a phroffesiynoli fel chwedleuwyr.

Ynghyd â hyn, bydd yr ŵyl hefyd yn cyhoeddi rhaglen o weminarau a gweithdai ar-lein i helpu cefnogi chwedleuwyr ar bob cam o’u gyrfaoedd.

Mae Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd Beyond the Border a CASGLU yn rhan o’i raglen Ailddychmygu, Ailddatblygu a Chreu Cydnerthedd a gaiff ei gyllido diolch i gymorth ychwanegol hanfodol o Gronfa Cydnerthedd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae Beyond the Border yn ymroddedig i ddatblygu partneriaethau a rhwydweithiau newydd ac i weithio gydag amrywiaeth o gymunedau o amgylch Dinefwr a ledled Cymru. Mae Beyond the Border yn awyddus i ymchwilio ffyrdd newydd i fynd â chwedleua ar daith a chreu cynlluniau ar y cyd gyda dulliau celf eraill, gan gydweithio i greu dyfodol mwy cadarn ar gyfer chwedleua yng Nghymru.

I gael mwy o wybodaeth am CASGLU a Rhaglen Mentora Lleisiau Newydd, cysylltwch os gwelwch yn dda â Chydlynydd Ymgysylltu BtB tamarwilliams@beyondtheborder.com

Mae Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yr Uned Digwyddiadau Mawr, Ewrop Greadigol a’r Ffederasiwn Chwedleua Ewropeaidd.

Cefnogir gan

^
Cymraeg