body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Cyhoeddi mwy o berfformwyr ac ail don y tocynnau nawr ar werth.

Mae Beyond the Border, prif Ŵyl Chwedleua Ryngwladol Cymru, wedi cyhoeddi'r rhestr gyntaf o artistiaid a cherddorion fydd yn perfformio yng ngŵyl 2020 ar thema Ailddychmygu ein Dyfodol yn ei chartref newydd, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin rhwng 3-5 Gorffennaf 2020. 'Reimagining our Futures'. at its new home, National Trust Dinefwr, Carmarthenshire from 3-5 July 2020.

Ers mwy na 25 mlynedd, Beyond the Border yw prif Ŵyl Chwedleua ryngwladol Cymru gan ddod â straeon a phobl at ei gilydd, o Gymru a’r byd, trwy ŵyl eilflwydd sy’n ysbrydoli.

Mae rhaglen 2020 yn edrych i'r dyfodol gyda llu o leisiau newydd yn cynnwys Siân Miriam a enillodd Wobr Esyllt Harker, Phil Okwedy a Mickey Price o Gymru ynghyd â ffigurau pwysig o gymunedau chwedleua Prydain ac Ewrop, ynghyd â gwesteion rhyngwladol yn cynnwys pedwar artist o Ganada sy'n ymweld â'r ŵyl am y tro cyntaf.

Cafodd Ivan Coyote ei eni a'i fagu yn Whitehorse, Yukon ac mae newydd ddathlu 25 mlynedd o deithio rhyngwladol fel chwedleuwr, cerddor, perfformiwr ac awdur, ac mae'n ymuno â Marta Singh, a anwyd yn yr Ariannin, sydd bellach yn ddinesydd Canada. Bydd y ddau yn rhannu eu straeon yng Ngŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border am y tro cyntaf erioed. Mae'r gantores a'r ddawnswraig flamenco Tamar Llana o Toronto a'r cerddor Demetri Petsalakis yn defnyddio ystod anhygoel o ysbrydoliaeth ddiwylliannol, yn cynnwys plentyndod Tamar yn casglu caneuon mewn pentrefi anghysbell yn Sbaen a Portiwgal gyda'i mam sy'n ethnogerddoregwr a'i threftadaeth Iddewig-Brodorol-Romanaidd-Albanaidd ei hun.

Mae ymchwiliadau rhyngwladol cyffrous o ddylanwadau diwylliannol lluosog yn cynnwys un o chwedleuwyr gorau Ewrop, Mimesis Heidi Dahlseen o Norwy, sy'n rymus wrth gyfuno mytholeg Lychlynig gyda deunydd hunanfywgraffiadol ac Abbi Patrix, un o feistri cydnabyddedig chwedleua Ewropeaidd (Norwy/Ffrainc) sy'n plethu chwedleua gyda cherddoriaeth, theatr, dawns a meim gyda'r offerynwraig taro, cyfansoddwraig a'r berfformwraig fyrfyfyr Linda Edsjö, o Sweden.

Yn ogystal â dod â rhai o'r chwedleuwyr gorau o bob rhan o'r byd i Gymru, mae Beyond the Border yn angerddol am arddangos y dalent orau o Brydain. Mae Jan Blake yn enwog ym mhob rhan o'r byd am haelioni, deinamigrwydd ac uniongyrchedd ei chwedleua, gan arbenigo mewn straeon o Affrica, y Caribî ac Arabia. Mae llawer o hen ffefrynnau'r ŵyl yn dod i Sir Gaerfyrddin, i gyd gyda straeon newydd a ffres, yn ogystal â'r hoff glasuron yn seiliedig ar epig, chwedl a myth yn cynnwys sefydlydd enwog y Crick Crack Club Ben Haggarty, enillydd Medal Gŵyl y Gelli Daniel Morden, y saer geiriau hynod Clare Murphy a Michael Harvey, enillydd Prif Wobr Cymru Creadigol.

Mae chwedleuwyr poblogaidd o Gymru yn cynnwys Dafydd Davies-Hughes y ffefryn o'r Gogledd, Cath Little o Gaerdydd a Tamar Eluned Williams, sydd hefyd yn arwain rhaglen cyswllt cymunedol helaeth yr ŵyl yn cynnwys gwaith gyda phedair ysgol leol fydd yn arwain at Seremoni Agoriadol yr ŵyl. Gyda chwedleua dwyieithog a Chymraeg drwy gydol y rhaglen dridiau, mae'r ŵyl yn arbennig o falch i groesawu Mair Tomos Ifans i Beyond the Border. Bydd Mair yn dweud straeon gyda'r delynores Sioned Webb a'r ymchwilydd awyr agored Nuala Dunn, yn rhannu straeon afon o bob rhan o Gymru yn ogystal â straeon gwerin traddodiadol a straeon tylwyth teg tywyll Cymreig i godi pyls ymwelwyr i'r Ŵyl sy'n gwersylla gyda thylluanod yn hwtian a creaduriaid y goedwig yn gwmni.

Er bod digonedd o sioeau hwyr y nos gyda thystysgrif PG/15+, nid dim ond ar gyfer oedolion mae'r ŵyl hon. Mae Beyond the Border yn adnabyddus am fod yn un o'r digwyddiadau mwyaf cyfeillgar i deuluoedd yng Nghymru, gyda straeon ar gyfer teuluoedd ar y rhaglen yn ogystal â chelfyddydau a digwyddiadau awyr agored i gadw ieuenctid egnïol wedi'i hysbrydoli drwy'r penwythnos.

Bydd Citrus Arts, cwmni syrcas ieuenctid Pontypridd, yn perfformio fersiwn o'u sioe wobrwyol 'Savage Hart' yn ogystal â gweithdai sgiliau awyr, gwneud cwlwm a sgiliau syrcas ar hyd y penwythnos. Bydd Marion Leeper yn cynnal Straeon Caru ar gyfer y Ddaear ar gyfer yr ifanc iawn, a bydd Triptych o Gaerdydd, y chwedleuwraig Cath Little, yr arbenigydd Meithrin Anna Podesta a'r artist/awdur Farah Morley yn rhannu straeon i ymlacio iddynt ac ysbrydoli breuddwydion am y Ddaear, y Lleuad a'r Sêr ar gyfer plant dan 5. Yno hefyd fydd Milly Jackdaw, Bedtime Stories a sioeau pyped enwog Hand to Mouth Theatre, a'u sioe newydd Box of Deligbhts, mae cymaint i'r holl deulu ei fwynhau.

Mae'r cerddorion a gadarnhawyd i chwarae yn yr ŵyl yn cynnwys Gwilym Bowen Rhys, artist unigol gorau Gwobrau Gwerin Cymru a Will Pound, a enwebwyd deirgwaith am deitl Cerddor Gwerin y Flwyddyn BBC Radio 2. Bydd Will Pound ynghyd â'r ddeuawd Gwilym Morus-Baird ac Owen Shiers yn cyflwyno fersiynau Cymraeg a Saesneg o Gadael Tir, eu hanes o hawliau tir a phrotest yng Nghymru. Caiff mwy eu cadarnhau yn y misoedd i ddod.

Dywedodd Naomi Wilds, y Cyfarwyddwr Artistig, "Rydym wrth ein bodd gyda'r lleoliad newydd hardd yma a'r amrywiaeth artistiaid a gadarnhawyd hyd yma ar gyfer ein rhaglen Ailddychmygu ein Dyfodol. Gyda llawer o wahanol flasau o straeon a cherddoriaeth, celfyddydau awyr agored, natur a llesiant i'w mwynhau, mae'n gyfle i dreulio tri diwrnod yn gwahodd ein dychymyg yn ogystal â'n cyrff i anadlu! Mae harddwch a hanes Dinefwr yn ysbrydoliaeth go iawn a rydym i gyd yn edrych ymlaen at glywed sut mae cynulleidfaoedd yn mwynhau'r gofod newydd hwn yn ogystal â phlethiad gwych hanes, straeon, cerddoriaeth ac antur yn ystod yr ŵyl.

Mae manylion pellach am Raglen Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border ar gael yn beyondtheborder.com. Mae ail don y tocynnau yn awr ar werth ac yn gorffen ar 31 Mawrth cyn yr aiff y tocynnau pris llawn ar werth o 1 Ebrill. Gall Aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sicrhau disgownt ar docynnau. Dim ond drwy Beyond the Border y gellir gael tocynnau yn safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cefnogir Gŵyl Chwedleua Ryngwladol Beyond the Border gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Yr uned Digwyddiadau Mawr a Ffederasiwn Chwedleua Ewropeaidd.

Cefnogir gan

^
Cymraeg