Ymunwch â ni mewn grŵp coffi a sgwrs i chwedleuwyr sydd wedi hen arfer a’r rhai sy’n dechrau arni.
Trwy sesiynau cyson sy’n para am awr i 90 munud, mae chwedleuwyr yn trafod y pynciau llosg o ddiddordeb ac o bwys i artistiaid, yn rhannu eu harfer, yn datblygu syniadau, rhwydweithio a llunio cysylltiadau. Mae pob sesiwn, a hwylusir gan Gydlynydd Ymgysylltiad dwyieithog BtB, yn cychwyn gydag 1-2 artist/gwestai yn procio sgwrs ac yna fe wahenir i drafod mewn grwpiau bach.
Man i ymgynghori a thrafod syniadau yw CASGLU a chyfle i ysgogi trafodaeth. Bydd gweithwyr proffesiynol profiadol, chwedleuwyr sy’n dechrau arni a’r rhai sy’n dod i’r amlwg yn cael mynediad cyfartal i Casglu. Bydd y trafodaethau yn bwydo i sesiynau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol a drefnir gan dîm gŵyl Beyond the Border. Trwy CASGLU, mae artistiaid yn llunio perthynas ac yn herio ei gilydd, gan gynyddu eu hymdeimlad unigol o fod â rheolaeth ar bethau yn ogystal â’u hunaniaeth fel rhan o gymuned sy’n tyfu.
If you’d like to attend, please follow the link above or email casglu@beyondtheborder.com