body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Chandrika Joshi

Artist - Chandrika Joshi

LLEISIAU NEWYDD

Ganed Chandrika Joshi i rieni Indiaidd yn Uganda a daeth i Gymru yn ffoadur yn 1972. Aeth i’r ysgol yn y Rhondda ac astudiodd ddeintyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd tad Chandrika yn offeiriad Hindŵ a dilynodd yn ei ôl traed a daeth yn offeiriades Hindŵ gan wasanaethu’r gymuned Hindŵ yn lleol a thu hwnt. Mae offeiriaid yn adrodd storïau (Katha) o destunau hynafol yn rhan fawr o’r gymuned gymdeithasol-grefyddol Hindŵ. Roedd ei thad yn adrodd Katha a’i mam yn diddanu’r cymdogion gyda chwedlau cymhleth yr oedd hi wedi eu clywed gan ei mam hithau yn rhan fawr o’i phlentyndod.

Mae chwedleua yn ei gwaed. Roedd Kathakaar proffesiynol (chwedleuwyr) ar ddwy ochr teuluoedd ei mam a’i thad. Ymunodd â chylch chwedleua Caerdydd 8 mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn adrodd storïau byth ers hynny. Yn yr ŵyl eleni bydd yn rhannu rhannau o’i phrofiad mentora LLEISIAU NEWYDD

Pryd?

Sadwrn 2pm: Casglu - Savitri

Sadwrn 10pm: Gwenllian - Women Who Gave No F*cks

Sul 12pm: Glyndwr - Mamiaith

Sul 2pm: Taith Stori'r Talisman

 

Cefnogir gan

^
Cymraeg