Mae gwaith Tamar ar gyfer Beyond the Border yn cynnwys datblygu a darparu gweithdai a phrosiectau creadigol, gweithio gydag ysgolion, ceisio am gyllid ar gyfer datblygu syniadau newydd, a dod o hyd i strategaethau i wreiddio’r ŵyl yn ddwfn o fewn treftadaeth Cymru, a’i chymuned leol yn Sir Gâr. Mae hi’n ddwyieithiog yn Gymraeg ac yn angerddol am ddatblygu gwaith perfformio iaith Gymraeg yr ŵyl, ynghyd â chefnogi lleisiau newydd ym maes adrodd straeon, a datblygu rhwydweithiau ymhlith storïwyr ledled Cymru a’r byd.
Mae Tamar hefyd yn storïwr gwobrwyedig ac yn gweithio gydag ysgolion, amgueddfeydd, theatrau a sefydliadau celfyddydol fel artist llawrydd. Mae hi'n gweithio gyda chwedlau o Gymru yn bennaf, gan berfformio straeon yn Gymraeg a Saesneg. Mae hi’n aelod panel ar gyfer Chwedl, rhwydwaith storiwragedd Cymru, ac yn cynnal noson adrodd straeon reolaidd ym Mryste, sef STORYPUB.