body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Tamar Ilana

Artist - Tamar Ilana

Mae Tamar Ilana yn artist amlochrog a aned yn Nhoronto ac a dyfodd yn teithio yn rhyngwladol, yn canu mewn nifer o ieithoedd ac yn dawnsio flamenco.

Treuliodd Tamar lawer o'i phlentyndod yn perfformio yng ngwledydd Môr y Canoldir a Gogledd Ewrop gyda'i mam Dr. Judith Cohen, sy'n ethnogerddolydd, ac yn casglu caneuon oedd ar fin diflannu o bentrefi yn Sbaen a Portiwgal.

Wedi'i thrwytho mewn traddodiadau canu, perfformio a flamenco ar hyd ei phlentyndod, fe sefydlodd ei band, Ventanas, sy'n golygu ffenestri mewn Sbaeneg, yn adlewyrchu bywyd Tamar fel cyfres o ffenestri ar ddiwylliannau ac arddulliau cerdd, dawns a chelf niferus.

Ar gyfer 2021 bydd cynulleidfaoedd yn cael eu cludo i Ganada o gartref ein gŵyl yn ogystal ag ar-lein ar gyfer dangosiad arbennig wrth i Tamar Ilana a’i band ein harwain ar daith gerddorol, yn dangos sut y mae caneuon a storïau o’i phlentyndod wedi bod yn sail i’w chymysgedd angerddol a chyfoes o chwedleua electroacwstig, cerddoriaeth a dawns.

Pryd?
Saturday 3pm & Sunday 1pm – Outdoor Screen
Songs and Stories from a Mediterranean Childhood

Cefnogir gan

^
Cymraeg