body;.cta-row;h1;h2;h3;h4;h5;h6;.h1;.h2;.h3;.h4;.h5;.h6;.property-page-card-title;.text-center;.text-white;a;.property-page-header-pricebox;.conrwtxt3212

Alys Torrence

Artist - Alys Torrence

Alys Torrence Mae Alys yn chwedleuwraig sy’n perfformio, clown ac actores. Fe’i ganed yn Stroud, mae hanner ei gwreiddiau yn Hwngari ac mae wedi ei magu yng nghanol unlle, dywedodd ei stori gyntaf pan oedd yn chwech, am fugail o Esgimo.

Mae Alys yn cyd-redeg Story Jam gyda Lucy Lill, gan gynhyrchu nosweithiau chwedleua proffesiynol, gweithdai a chyfarfodydd gyda chwedleuwyr eraill. Treuliodd y flwyddyn ddiwethaf ar-lein, yn recordio storïau wedi eu sibrwd, yn rhedeg gweithdai cyson ar zoom, yn perfformio a chefnogi chwedleuwyr eraill.

Ar hyn o bryd mae’n gweithio gyda’r chwaraewr soddgrwth Chloe Bezer ar STOOPID, sioe gabaret chwedleua. O’i chanolfan yn Llundain, mae’n gweithio ar draws y Deyrnas Unedig, mewn pob math o leoliadau gan gynnwys Theatr Soho, Llundain, Theatrau’r Tobacco Factory, (Bryste) Summer Squall (Ramsgate), Etcetera Theatre a The Gatehouse (Llundain), Gerddi Kew, ac mewn clybiau a gwyliau o gwmpas y wlad. Mae hefyd yn adrodd chwedlau dychrynllyd i blant ysgol yn ysgolion cynradd canol dinas Llundain gyda ‘The Latin Programme’.
Based in London, she works across the UK, in all sorts of venues including the Soho Theatre, London, Tobacco Factory Theatres, (Bristol) Summer Squall (Ramsgate), Etcetera Theatre and The Gatehouse (London), Kew Gardens, and at clubs and festivals around the country. She also tells terrifying myths to school children in inner-city London primary schools with The Latin Programme.

Pryd?
Dydd Sadwrn 10pm: Gwenllian, Women Who Gave No F*cks

MC yn Beyond the Border - digwyddiadau amryywiol

Photo: Mark Dawson Photography

Cefnogir gan

^
Cymraeg