“Storïau chwedlonol hudol gan chwedleuwraig ryfeddol o Gymru”
Mae gan y chwedleuwraig a’r gantores o Gaerdydd, Cath Little “hud garw” yn ei llais, ac yn ei geiriau ei hun mae “rhodd y stori yn torri trwodd”.”
Perfformiodd mewn gwyliau ar draws Prydain ac Iwerddon, hi yw awdur Storïau Gwerin Morgannwg i Blant ac mae’n fentor brwdfrydig i chwedleuwyr sy’n dod i’r amlwg.
Mae Cath yn adrodd storïau traddodiadol yn deillio o’i hetifeddiaeth Wyddelig/Saesnig a’i chartref yng Nghymru ac mae’n angerddol am rannu chwedlau rhyfeddol Prydain, Y Mabinogi.