Mae Hugh Lupton yn chwedleuwr, perfformiwr ac awdur buddugol sydd wedi teithio yn genedlaethol a rhyngwladol ers dros 35 mlynedd. Cydsefydlodd y ‘Company of Storytellers’ gyda Ben Haggarty a Sally Pomme Clayton, ac mae eu gwaith wedi bod yn allweddol wrth ysgogi adfywiad cenedlaethol yn y diddordeb mewn chwedleua.
Mae wedi cydweithio yn greadigol gyda nifer o artistiaid amlwg gan gynnwys partneriaeth fuddugol gyda Daniel Morden ar chwedlau Groegaidd (gwobr 2006 y Gymdeithas Glasurol). Mae ei nofel o 2018 ‘The Assembly of the Severed Head’, wedi ei ‘seilio ar ddealltwriaeth hir a doeth o’r traddodiad llafar a’r Mabinogi... asgwrn cefn y nofel yw ymwneud yn ddyngarol â grym a swyddogaeth stori.” Kevin Crossley-Holland
Pryd?
Storytelling Adventure Premiere
Dydd Gwener 8pm: Gwenllian
Dydd Sadwrn 10pm – Fersiwn Awyr Agored
(Silent Storytelling)
Bydd Hugh yn perfformio comisiwn newydd gan BTB Stars and their Consolations a grêwyd gyda Daniel Morden a’r gyfansoddwraig Sarah Lianne Lewis. Chwedlau Groegaidd am y clystyrau sêr mwyaf amlwg yn yr awyr yn y nos gyda chefndir o synau unigryw a llawn awyrgylch. O waelod yr enaid, yn emosiynol a dwys.
Rhybudd: mae’r rhaglen hon yn cynnwys delweddau o drais rhywiol.
16+
Rhybudd: mae’r rhaglen hon yn cynnwys delweddau o drais rhywiol.
16+
Pryd?
Sul 6pm: Glyndwr
Crying Like a Fire in the Sun
Bydd cythreuliaid ac angylion yn brwydro mewn plethiad cyfoethog o storïau Apocryffaidd ac o’r Hen Destament gan dynnu ar ffynonellau Iddewig, Islamaidd a Christnogol, gyda chaneuon o ddiweddglo llawn gweledigaeth casgliad Bob Dylan o ganeuon.
14+